Canlyniad ar y gorwel

Ydyn.

Rydyn ni – yr Awstralwir di-lywodraeth – wedi cael hwyl arni ers yr 21ain o Awst.

Pob math o ddadlau, pob math o gam-bihafio, pob math o siarad rwtsh.

Ond mae’r hwyl yn dirwyn i ben.

Mae’n debyg y bydd y sawl sy’n dal y fantol yn Nhy’r Cynrychiolwyr yn penderfynu pwy i gefnogi fel llywodraeth lleiafrifol erbyn dydd Mawrth nesaf.

Mae’r Gwyrddion eisoes wedi arwyddo cytundeb gyda’r Blaid Lafur ond ni fydd yn werth pris yr inc pe tai’r annibynnwyr gwledig yn ochri gyda’r Glymblaid Geidwadol.

Ond mae’r glymblaid mewn tipyn o dwll oherwydd twll mawr yn eu ‘syms’ cyllidebol. 

I ba gyfeiriad y mae’r gwynt yn chwythu felly ? 

Mae’n andros o annodd i fod yn siwr.  Ond gyda 3 o’r 4 annibynnwr yn cynrychioli etholaethau ceidwadol eu natur mae gennyf deimlad yn fy nwr y bydd Tony Abbott a’i gyd-geidwadwyr yn ennill grym yn y diwedd.

Ond fe fydd rhaid i Abbott fod yn feddalach o lawer wrth drafod materion cymdeithasol a moesol. 

Rwy’n dechreu meddwl y bydd y cyfle o lywodraethu’n ei berswadio i dawelu tipyn am bethau fel erthylu, gwrywgydiaeth ac yn y blaen.

Ond ar y llaw arall…

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s