Doethineb o’r diwedd DIWEDDARIAD

Mae “chi lot” yn hen gyfarwydd ar yr hyn sy wedi digwydd yma yn Awstralia.

Senedd grog.

Mae’na lawer o’m cwmpas yn dweud bod y sefyllfa yn argyfwng neu un sy’n codi braw arnyn nhw.

I mi, mae’r canlyniad aneglur yn ymateb cwbl clir gan yr etholwyr i gyfundrefn ac ymgyrch sy wedi siomi ac sy wedi bod yn afiach.

Mae’r gogwyddau mor ryfeddol o amrywiol o gwmpas y wlad enfawr hon i wneud i chi feddwl yr oedd llawer o etholwyr am wneud pethau mor annodd a phosibl i’r gwleidyddion.

Pwy bynnag fydd yn llywodraethu fe fydd rhaid iddyn nhw fod yn llywodraeth eang ei hapel.  Felly, fe fydd rhaid i bawb – boed yn Queenslander neu queer – gael eu hystyried. 

Cyfnod cyffrous sydd o’m blaennau ni.  Ond mae’r Cymry yn hen gyfarwydd a chanlyniadau  sy ddim yn ddu a gwyn.

Mae ennill grym heb ennill etholiad rhywbeth yn fwy iachus, yn fy marn i,  i’r agwedd “winner takes all” o’r degawdau diwethaf lle mae credo Thatcher, Blair, Howard a’u criw wedi teyrnasu heb erioed ennill gwir fwyafrif.

Deffro mae’n ddydd Awstralia! 

#

Wedi postio ar y 24 ain.  Eisoes mae’r siopau siarad wedi agor ac mae busnes yn llewyrchus.  Mae natur y ddadl wleidyddol wedi newid yn gyfan gwbl.  Mae “syniadau” yn cael eu trafod, ffyrdd o wella’r gyfundrefn yn cael eu gwyntyllu.  Ai democratiaeth yw hwn ?

Yn y diwedd mae’n ddigon posibl y bydden ni’n dychwelyd i’r hen ffordd Awstraliaidd o wleidydda, ond rwy’n dal i freuddwydio am rywbeth llawer gwell.  52 oed ydwyf ond nid wyf wedi tyfu lan eto !

Am y canlyniadau diweddara ewch i fan hyn

Am y newyddion etholiadol diweddara ewch i fan hyn

Ac am fwy o “ddaddansoddi” ewch i fan hyn

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s