Amser a ddengys

A minnau yn Sydney am y diwrnod a hithau’n 4.30 y prynhawn.  Sut mae pethau’n sefyll ?

Y diweddara o’r polau piniwn yw y bydd canlyniad yr etholiad yn agos iawn ac fe fydd y cyfrif yn para am ddyddiau i ddod. 

Llafur o drwch blewyn, y Glymblaid o drwch blewyn neu senedd grog.  Mor agos a hynny.

Nid mater o’r wlad yn symud i’r dde neu’r chwith yw’r canlyniad.  Mater o ddifaterwch a diffyg egni.  Fe allai lefel y bleidlais brotest benderfynu pwy fydd yn ennill yn y pen draw neu, mewn termau eraill, rhaid i Lafur gadw ei cholledion o dan reolaeth i ennill y wobr fawr.

Mae’r ogwydd i’r Glymblaid ond rhyw hanner o’r colledion arfaethedig sy’n wynebu Llafur.  Nid yw’r Ceidwadwyr wedi llwyddio i berswadio mwyafrif y pleidleiswyr simsan hyd yma.

Peidio colli nid ennill yn llwyr fydd hanes yr etholiad hwn.

Pe tai democratiaeth Awstraliaidd yn glaf mewn ysbyty, fe fyddai’r metron yn galw am yr offeiriad !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s