Ar drothwy penderfyniad.

O’r diwedd, rydyn ni’n agosau at y llinell derfyn.

Pum wythnos o eiriau, lluniau a fawr ddim gweledigaeth.

Rwyf wedi bod yn gwylio etholiadau ers 1970 a hwn yw’r un mwya diflas i mi weld o bell ffordd.

Gan fod rhaid i bawb bleidleisio yn y wlad hon, mae’r frwdyr wleidyddol wedi canolbwyntio ar ychydig o etholaethau  mewn cwpl o daleithiau.  Mae addewidion ariannol wedi llifo i gyfeiriad Queensland a maestrefi Sydney lle, yn ol yr rhai gwybodus yn y ddwy brif blaid, bydd yr etholiad yn cael ei benderfynu.  Dyma leoliad y rhan fwyaf o etholaethau ymylol a’r mwyafrif llethol o ymweliadau gan yr arweinyddion.  Mae’na un ffordd o gadw ffyddlondeb pobl bwysig y maestrefi allanol – arian a mwy o arian. 

Ac am y gweddill ohonom ni ?   Prin ein bod ni wedi cael ein hystried gan y naill ochr na’r llall.  O ganlyniad mae lefel y cefnogaeth i’r pleidiau llai ac annibynnwyr yn uchel.  Yn ol y polau piniwin diweddara mae tua 20% o’r etholwyr am ffafrio’r Gwyrddion (Australian Greens), y Blaid Ryw (Australian Sex Party), Plaid y Teulu (Family First) a llwyth o  annibynnwyr.

Ond oherwydd y gyfundrefn belidleisio gyfrannol mae’n rhaid i etholwr ddewis rhwng Llafur a’r Glymblaid erbyn diwedd y broses.  Mae’n orfodol i chi roi rhif wrth ochr pob ymgeisydd.  Felly, yn y diwedd, mae’n fater o benderfynu p’un o’r brif bleidiau yr ydych chi’n casau lleia.

I mi a miloedd o bobl eraill mae’r penderfyniad hwnnw yn andros o annodd.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s