Wythnos i fynd DIWEDDARIAD 2

Ymgyrch od, ymgyrch ddiflas, ymgyrch hir.

Ond o fewn wythnos fe fydd hi ar ben … o’r diwedd.

Mae popeth a phawb yn awgrymu na fydd’na ganlyniad clir ar noson yr etholiad Awstraliaidd ar yr 21ain o Awst.  Mae’n hynod o agos ac mae’n ddigon posib na fydd gan unrhyw blaid fwyafrif ar ddiwedd y cyfrif.  Gwyn ein byd.

Ar ol pythefnos o golli tir mae’r prif-weinidog Julia Gillard wedi gwella ei pherfformiad ymysg y cyhoedd ac, yn bwysicach o bosibl, ar y cyfryngau.   Siarad yn blaen ac yn uniongyrchol oedd cyfrinach poblogrwydd JG cyn iddi gipio’r awennau oddi wrth Kevin Rudd.  Collodd ei ffordd trwy “gadw ar neges” a siarad sbin di-ddiwedd.  Bellach, mae hi yn ol i’w harferion o siarad fel person go iawn ac mae ei ffigurau yn y polau wedi gwella rhyw ychydig. 

A beth am y Glymblaid ?  Mae arweinydd y Rhyddfrydwyr, Tony Abbott, wedi gwenud llawer gwell na disgwyliadau hynod isel yr arbennigwyr.  Mae e’n wr sy’n cadw yn heini trwy reidio ei feic a nofio, ac mae e wedi dangos yr un fath o ddisgyblaeth wrth ymgyrchu.  Hyd yma, nid yw e wedi dangos ei liwiau crefyddol yn ormodol wrth drafod materion cymdeihasol (mae TA yn babydd pybyr) ac mae e wedi llwyddo i beidio siarad i lawr i hanner yr etholwyr, sef menywod.

Mae ‘di bod yn fis hir ers i’r etholiad gael ei alw ac ychydig iawn sy wedi denu sylw’r boblogaeth gyffredinol.  Yn wir, mae ymddygiad cyn-brif-weinidogion a chyn-arweinyddion pleidiol wedi llwyddo i wenud hynny’n fwy nag ymdrechion naill ai Gillard nag Abbott. 

Kevin Rudd (cyn brif weinidog Llafur),  John Howard (cyn brif weinidog y Glymbiad),  Malcolm Fraser (cyn brif weinidog y Glymblaid) a Mark Latham (cyn arweinydd Llafur) wedi dweud neu wneud pethau sy wedi creu penawdau mawr.  Nid wyf am son am yr hyn wnaethon nhw i gyd…ond dyma enghraifftiau o grefft Mr Latham wrth iddo weithio fel gohebydd dros dro i’r rhaglen deledu “60 Minutes”.

Yn cwrdd a’i “hen ffrind” Julia Gillard

Ac yn dweud shw mai wrth hen “elyn”

Colofn 3 Josh Lynham !  Sef “trivia”.

Am hynt a helynt gweddill yr hen wyr gwleidyddol, defnyddiwch yr hen declyn Google! 

Y cyfan dywedaf i am ddylanwad yr hen bennau politicaidd yw hyn: mae’n dweud cyfrolau am sefyllfa fregus a llwfr gwleidyddiaeth Awstralia.  Mae “mash ups” o frwydrau gwleidyddol a fu a “stunts” teledol yn fwy diddorol i’r cyfryngau a’r bobl na’r presennol a’r dyfodol. 

Diffyg gweledigaeth a diffyg menter.  Dyna elfen fwya’r etholid hwn. 

Mewn cyfnod o gyfathebru eang nid oes fawr ddim yn cael ei ddweud gan neb am y dyfodol.

Fe ddylai etholiad fod yn barti dathlu democratiaeth.  Ond yn y parthau hyn, rydyn ni’n cael “sesh” llenwi tudalennau/teledu/radio/Twitter/gwefannau/Youtube. 

Ac ar ol “sesh” …

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s