BBC Alba – stori i godi calon

Mae helyntion S4C wedi cyrraedd Awstralia …  wel maen nhw wedi cyrraedd y sawl sy’n edrych ar safle gwych BBC Cymru. 

Ond a ydy hanes BBC Alba wedi cyrraedd Cymru fach eto ?

Mae’r Sianel Ddigidol Gaeleg wedi llwyddo i ddenu cynulleidfa llawer mwy o faint na nifer  siaradwyr yr iaith.  Roedd rhaid i reolwyr y sianel anelu at boblogaeth ehangach na’r 90.000 sy’n siarad, neu o leia deall, Gaeleg.

Yn ol Adroddiad Blynyddol BBC Alba mae dros 200,000 yn gwylio’r sianel yn rheolaidd.  Ac mae hyn er gwaethaf y ffaith nad yw BBC Alba ar gael ar Freeview. 

Ar ben hynny mae’r nifer y cliciau ar iPlayer BBC Alba yn ystod tri mis cyntaf 2010 yn 241,000!

‘S math sin !!

Ewch i weld y wledd deledol sy ar gael.  Mae’na is-deitlau Saesneg ar bob rhaglen ag eithrio’r rhai ar gyfer plant.

Nid yw BBC Alba’n berffaith o bell ffordd.  Mae’na ormod o ail-ddarlledu oherwydd diffygion cyllidebol.  Ond mae’r sianel wedi gosod seiliau cadarn i wasanaeth darlledu gwir Albanaidd eu naws.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s