Rudd yn ol, Queenslander arall yn dangos ei ddoniau

Queenslander yw’r cyn brif-weinidog Kevin Rudd. 

Ers colli ei swydd i Julia Gillard y mae wedi cadw ei geg ar gau.  Roedd yr hyn a ddigwyddodd iddo yn sydyn ac yn dreisgar (yn nhermau gwleidyddol). 

Ond nawr, wedi iddo gael triniaeth am broblemau gyda’i “gall bladder”, mae Rudd wedi siarad mewn cyfweliad hir a diddorol.  Ewch i’r fan hyn i’w glywed.

Gyda phythefnos ac ychydig ddyddiau i fynd mae KR wedi addo gwneud ei orau glas i gefnogi’r fenyw o’r Barri yn ei hymdrechion i aros mewn grym.  Ar ben hynny, mae e wedi gwadu’r awgrymiadau cyson  mai yfe oedd yn gyfrifol am ryddhau cyfrinachau o gyfarfodydd y cabinet sy ddim yn adlewyrchu’n ffafriol ar Ms Gillard.

Datblygiad diddorol.

Gan aros yn nhalaith y bananas…a finnau wedi bod yn dra feirniadol o’r ymgyrch etholiadol hyd yma, mae’n bryd i mi ddangos i chi pa mor ddifyr y mae pethe ymhell i ffwrdd o’r arweinyddion.

Roedd Bob Katter yn aelod seneddol dros y Blaid Genedlaethol am dipyn ond fe gafodd  llond bol o wleidyddiaeth Canberaidd a safodd fel ymgeisydd annibynnol ac ennill yn hawdd.

“Cenedlaetholwr” Queensladaidd yw e yn y bon.

Oes mae’na gymeraidau o gwmpas y lle.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s