Newspoll yw prif bol piniwn Awstralia.
Ac mae’r un diweddara’n dangos ei bod hi’n ras cael a chael am yr etholiad.
Dyma’r pol a gyhoeddwyd ar ddydd Llun yr 2il o Awst wedi wythnos drychinebus o wael i’r llywodraeth a’r brif weinidog Julia Gillard. Yn ol ei gasgliadau mae Llafur a’r Glymblaid Geidwadol yn gyfartal, gyda phleidiau’r dde’n ennill tir sylweddol ers dechreu’r ymgyrch.
OND gyda thair wythnos i fynd rwy’n meddwl y bydd rhaid i’r Rhyddfrydwyr (a’r Blaid Genedlaethol) wneud yn well o lawer i sicrhau buddugoliaeth. Rwy’n credu y bydd rhaid iddyn nhw fod ar y blaen o 52% i 48% yn y polau piniwn i ennill ar y diwrnod mawr.
Mae nerth a dylanwad “incumbency” mor gryf a hynnny.
A chofiwch, mae’n rhaid i BAWB bleidleisio yn y wlad hon. Felly mae pleidlais y sawl sy a dim diddordeb ym maes gwleidyddiaeth yr un mor bwysig a phleidlais rhywun syn dilyn bob hynt a helynt. Ac mae hynny yn fantais fawr i unrhwy lywodraeth.
Status quo + incumbency = cyfle go dda o ennill.
Ac wedi beirniadaeth dibendraw am ddiffyg sylwedd a lliw yn yr ymgyrch mae’r brif-weinidog Julia Gillard wedi addo y bydd hi’n dangos ei lliwiau go iawn rhwng nawr a’r 21ain o Awst. Hen b—i bryd hefyd!
Ac ar ddydd Mawrth dyma hi’n mentro i ganol y “cyfryngwn”. Ewch i’r fan hyn am fwy!
Ac ymateb TonyAbbot ?
Mae e’n dweud ei fod e wedi bod yn berson “go iawn” trwy gydol ei 16 mlynedd o wasanaeth yn y senedd.
Exciting ynte!!!