Smonach o ymgyrch – “Campain”

A ninnau yn tynnu at ddiwedd ail wythnos ymgyrch etholiadol Awstralia, mae’n hen bryd i mi ddweud yn blwmp ac yn blaen pa mor ddiflas mae hi wedi bod cyn belled.

Fel un sy wedi dwli ar wleidyddiaeth ers fy mlentyndod – fersiwn ymennyddol o chwaraeon yw politics yn fy marn i – rwyf yn ysu gweld diwedd y dyddiau o wag-ymgyrchu gan y ddau arweinydd.

Mae’r brif weinidog Julia Gillard wedi’i gwenud ei hunan yn darged fach er mwyn osgoi taflegrau o bob cyfeiriad.  Mae’r “ddynes go iawn” yr oedd sawl un – a minnau yn eu plith – yn son amdani wedi llwyr ddiflannu.  Yn ei lle, robot arall o wleidydd yn ynganu sloganau llwydaidd.  Yr unig dro iddi ddangos unrhyw sbarc hyd yma oedd ymateb i “leaks” o drafodaethau cabinet. Am fwy amdanynt, ewch i’r fan hyn

Penawd yr ymgyrch hon yng nghyd-destun y ferch pel-goch o’r Barri yw “ymgais i beidio colli”. 

Ar y llaw arall mae gennym y cocni ceidwadol Tony Abbott.  OK, cafodd ei eni yn Llundain ond Awstraliawr i’r carn yw e – mae’r “lein” yn swinio’n gyfar felly rhaid i mi ei ddefnyddio!! 

Mae Abbott wedi rhedeg ymgyrch eithaf di-drefn hyn yma.  Llawer iawn o’i syms yn fregus a llawer iawn o’i ymddangosiadau ar y strydoedd yn beryglus o agos o droi’n free for all. OND, ac fel y gwelwch mae’n “ond” fawr, mae Abbott wedi manteisio ar dacteg Gillard o fod yn darged fach i ymddangos yn brif-weinidogaidd.

Penawd TA cyn belled yw “Gwneud yn well na’r disgwyl”.

Mae’na dair wythnos i fynd ac fe allai bethau newid yn gloi. 

Brysied y dydd !

Nid yw pethau’n ddu i gyd.  Mae’na ambell i dro lle mae’r gwleidyddion yn dangos eu dynoliaeth.  Dyma ddirprwyd arweinydd y Rhyddfrydwyr Julie Bishop ar y rhaglenn ddychanol, “Yes, We Can-berra”

 

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s