Etholiad 2010 – Maes y Gad 1

Fe fydd etholiad Awstralia yn cael ei ennill a’i golli mewn dwy dalaith – De Cymru Newydd a Queensland.

Mae’r rhesymau am eu pwysigrwydd yn wahanol iawn.

Yn Ne Cymru Newydd mae traean o seddi Ty’r Cynrychiolwyr. Mae Llafur wedi bod mewn grym ar lefel daleithiol ers y nawdegau cynnar ac sy, erbyn hyn, mewn trafferthion ar ol sgandalau o bob lliw a diffygion yn y gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth.  Roedd’na is-etholiad taelithiol ar gyrion Sydney yn ddiweddar a chollodd Lafur gyda gogwydd o 25% yn ei herbyn.

Yn Queensland mae’r diwidiannau gloddio ac amaethyddol yn bwysig ac mae’r dalaith yn fwy datganoledig nag unrhyw un arall ar wahan i Tasmania.  O ganlyniad mae pob math o bethau’n peri gofid i’r etholwyr ac mae hynny yn ei gwenud hi’n anodd i’r pleidiau ymladd yr un fath o ymgyrch ym mhob man.  Mae’r cyn-Brif Weinidog Kevin Rudd un o feibion Queensland ac mae’na son y bydd plwyfoldeb y dalaith yn ffactor wrth i bobl ystyried y Blaid Lafur o dan ei olynydd Julia Gillard.

Maestrefi ar gyrion y dinasoedd yw lleoliad y rhan fwyaf o bleidleiswyr simsan (floating voters) yn byw.  Materion ‘bara menyn’ sy’n penderfynu i ba gyfeiriad y maen nhw’n mynd gyda’u pleidleisiau. 

Yng nghanol y dinasoedd materion “jam” sy’n teyrnasu !!

Mwy am hyn nes ymlaen.

Dyma wefan y Comisiwn Etholiadol Awstraliaidd

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s