Lecsiwn ar y gorwel

Rwyf yn gweithio’r penwythnosau fel cynhyrchydd bwletin newyddion teledu’r ABC ac mae’na gyfnod prysur ar y gorwel. 

Fe fydd etholiad yn cael ei alw p’un ai’r benwythnos hon (10-11 Gorff) neu’r un nesaf. Felly, dim llawer o sbecian ar y “footy” i mi !  Ond mae perfformiadau’r “Bulldogs” yn ddigon i’m hala’n grac, gwallgof a thrist y dyddiau’ma.  Ond stori arall ydy honno!

Mae’r brif weinidog newydd Julia Gillard  – sy’n gefnogwraig frwd i’r Doggies gyda llaw – wedi bod wrthi’r clirio’r deciau neu’n hytrach wedi bod wrthi’n delio a’r materion a greodd cymaint o broblemau i’w rhagflaenydd Kevin Rudd.  Trethi ar y diwidiant cloddio, canolfannau i ffoaduriaid sy’n cyrraedd mewn cychod ac yn y blaen.

Mae Llafur wedi colli cysylltiad a’r bobl sy’n benderfynu etholiadau yn y wlad hon.  Y sawl sy’n brwydro i dalu morgais ar eu tau mawr maestrefol ar gyrion dinasoedd mawr y genedl.  Y sawl sy’n barrau priod ac yn gweithio ac sy  a phlant.  Yr “aspirationals”, y “battlers”, y sawl coleri glas sy’n hoff iawn o ennillion y gymdeithas gyfalafol … ac o gymorthdaliad llywodraethol ar gyfer codi plant, prynu tai, cynnal ysgolion preifat a phabyddol. 

Dyma paham mae Llafur yn symud tua’r de o ran polisiau gan geision gwasgu ar y Rhyddfrydwyr.  Ar y chwith mae’r Gwyrddion yn hyderus o ennill tir o’r dosbarth caffe latte yng nghanol y dinasoedd.

 Mae gweld llywodraeth Awstraliaidd yn colli wedi un tymor yn unig yn beth prin iawn, ond y disgwyl yw y bydd yn hynod o agos pan awn ni i’r bythau pleidleisio.

Fe fydd yn ymgyrch ddiddorol iawn – dewch yn ol yn gyson am hynt a helynt y frwdr rhwng y ddau Brydeiniwr !

Am fwy o wybodaeth am etholiadau ffederal Awstralia ewch i’r wefan hon

Ac am flas o noson yr etholiad….

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s