Tony Abbott: Gwallgof neu glyfar ?

Mae’r gwr sy eisiau bod Prif Weinidog ceidwadol nesaf Awstralia yn “gymeriad”.

Mae’n dweud ei ddweud, yn aelod o frigad dan wirfoddol ei faestref ar gyrion Sydney ac mae’n cystadlu mewn triathlons.  Mae’n hoff iawn o ddangos ei…ddoniau!  Gyda llaw, enw ei “trunks” ar lafar gwlad yw “budgiesmugglers“!

Tony Abbott yw ei enw ac mae gan bawb eu barn amdano – boed yn gefnogol neu’n wrthwynebus.  

Ennillodd arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol wrth i’r rhyddfrydwr gyda “rh” fach Malcolm Turnbull fethu’n drychinebus i argyhoeddi ei blaid o bwysigrwydd cefnogi polisi newid hinsawdd y llywodraeth Llafur.

Mae stori Abbott yn drawiadol.  Ar ol treulio amser ym Mhrifysgol Rhydychen, lle’r oedd yn baffiwr o fri, aeth Abbott ati i hyfforddi fel offeiriad pabyddol. Ond methiant bu hwnnw a throdd i fyd newyddiadriaeth ac yna gwleidyddiaeth – ond hyd heddiw mae ei lys enw yw’r “Mad Monk” !

Boi asgell dde, ceidwadol yw e, yn enwedig ar faterion fel erthylu  a gwrywgydiaeth.

Roedd Abbott yn weindiog yn llywodraeth John Howard ac mae’n berfformiwr da yn y Senedd.

Ond ei her nawr yw trechnu rhywun nad oedd e’n disgwyl gwynebu fel gwrthwynebydd yn yr etholiad nesaf – Julia Gillard.

Roedd Abbot wedi mynd dan groen Kevin Rudd i ryw raddau, ond nawr mae e’n gwynebu menyw yn y frwydr fawr.  Ac yn ol sawl un mae ganddo “broblem” gyda menywod.  Mae hwn yn enghraifft o’r ymgyrch etholiadiol diwethaf.

Mae pobl y Blaid Lafur yn hyderus y bydd Abbott yn gwneud neu ddwued rhywbeth fydd yn wylltio menywod Awstralia yn ystod y misoedd cyn yr etholiad. 

A fydd Tony’n dweud ar ddiwedd ei ymgygyrch yn erbyn y ferch ben-goch o’r Barri; “Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.” ?

Fe fydd yn ddiddorol cyfeillion!

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s