Sefydlwyd Awstralia fel gwlad ffederal ym 1901.
30 mlynedd yn ddiweddarach daeth y wlad yn gyfan gwbl annibynnol o dan Statud San Steffan (Statute of Westminster).
Nawr ym 2010 mae gan y genedl dau Brydeiniwr yn arwain ei dwy brif blaid wleidyddol.
Fel mae pawb yn gwybod am gefndir Julia Gillard erbyn hyn. Hyd syrffed ac eithafon stereotypes a ddweud y gwir. (Dyma fy “take” ar y ffordd y mae’r cyfryngau Awstraliaidd wedi trin a thrafod ei chefndir Cymreig)
Ond beth am gefndir arweinydd y Rhyddfrydwyr Tony Abbott ?
Un o feibion Llundain yw e ! Ond cyn i mi ddechreu son am “Bow Bells”, costermongers ac yn y blaen, dylwn i ychwanegu y cafodd ei eni i rieni o Awstralia, ac roedd Tony bach yn ol yn yr Antipodes cyn iddo ddathlu ei benblwydd yn 3 oed.
Ond mae’r ffaith bod dau a anwyd yn y DU yn arwain y pleidiau mawr yn tanlinellu mai gwlad y mewnfudwyr yw Awstralia. Mae’r Aborigines yn gwybod hynny yn gwbl clir. Du eu byd o hyd.
Ac os mae’r holl daddansoddi o bell yn eich drysu chi. Treuliwch tair munud gyda’r par yma i ddeall sut mae gwleiyddiaeth Awstralia’n sefyll wedi digwyddiadau rhyfedd yr wythnos ddiwethaf.
Hysbysiad Cyfeirio: Lecsiwn ar y gorwel « O Bell
Hysbysiad Cyfeirio: Byw’n llon 2 « O Bell