Colli llais

Am unwaith nid oes gennyf eiriau.  Wel, geiriau i’w clywed.

Rwyf wedi colli fy llais, felly mae’n rhaid i mi edrych ar y byd yn fwy manwl nag arfer.

A sut byd yw e ar hyn o bryd ?

Mae’r Socceroos wedi blasu siom enfawr yn eu gem gyntaf yng Ngwpan y Byd, mae’r Bulldogs yn ol ar y ffordd i’r ffeinals AFL ac mae gwleidyddiaeth y wlad hon yn dra ddiddorol.

Mae’n hawdd esbonio’r ddwy gyntaf:  1) dim hanner digon da 2) 6 gol i Barry Hall.  Ond y drydedd?

Roedd y Brif Weinidog Kevin Rudd yn hynod poblogaidd ond chwe mis yn ol, ond oddi ar methiant cynhadledd Copenhagen mae pethau wedi mynd o chwith. 

Bellach mae pobl yn amau ei fod yn ffit i fod yn arweinydd cenedlaethol, yn enwedig yn sgil cyhoeddiad traethawd swmpus amdano gan un o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw’r wlad.

Yn coroni popeth, mae’r penderfyniad i godi treth newydd ar elwr cwmniau cloddio yn brifo’r llywodraeth Llafur yn arw.

Mae Awstralia wedi osgoi dirwasgiad yn bennaf oherwydd y diwidiant cloddio a’i allforion enfawr i lefydd fel Tseina. 

Mae taleithiau Queensland a Gorllewin Awstralia wedi ffynu’n aruthrol.  Mae’r erthygl hon yn peintio darlun eithaf difyr o’r sefyllfa sydd ohoni yn y “Wild West”.

Mae’r ymateb i’r dreth arfaethedig o du’r cwmniau cloddio A’R cyfryngau sydd yn nwylo Rupert Murdoch wedi bod yn ffyrnig ac yn ddi-ddiwedd.

Kevin 07 (“My name’s Kevin & I’m here to help”) wedi troi’n Ruddbot.

Fe fyddai colli etholiad ar ol un tymor yn drychineb i Lafur. Ond, ac mae’n “ond” fawr, ydy’r ochr arall – y Glymblaid o’r Rhyddfrydwyr a’r “Nationals” – yn barod i ail-gydio’r awennau ?

Tan y blog nesaf …  !!

ON Nid oes cysylltiad rhwng fy llais diflanniedig a’r giamocs yn ystod fy rhaglen radio!

Advertisements

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Colli llais

  1. Hysbysiad Cyfeirio: O Cwmgwrach i Ganberra – taith anhygoel Julia Gillard « O Bell

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s