Dweud y gwir

Mae onestrwydd pur yn beth prin ym myd gwleidyddiaeth.

Mae dweud y gwir yng ngwleidyddiaeth Awstralia’n brinnach byth.

Nawr, rydyn ni’n gwybod yr holl wirionedd.

Mae arweinydd yr wrthblaid Tony Abbott wedi datgelu popeth mewn cyfweliad teledu.

Canolbwynt y drafodaeth oedd y frawddeg hon:

“I know politicians are gonna be judged on everything they say, but sometimes, in the heat of discussion, you go a little bit further than you would if it was an absolutely calm, considered, prepared, scripted remark, which is one of the reasons why the statements that need to be taken absolutely as gospel truth is those carefully prepared scripted remarks.”

Fel y byddwch yn disgwyl, mae’r ymateb i sylwadau Abbott wedi bod yn sylweddol.  Sioc yn cael ei fynegi gan warcheidwaid y gwirionedd – y colofnwyr a blogwyr gwleidyddol. Sioc arwynebol wrth gwrs!

Ar un lefel mae geiriau Tony Abbott yn ymddangos yn naif tu hwnt. 

Ond gyda beirniadaeth o’r Brif Weinidog Kevin Rudd yn cynyddu am ei ymddygiad robotaidd ac am ei newidiadau polisi sydyn, mae cyfaddefid Tony Abbott yn ddoeth iawn o bosib. Mae’n gweud i TA ymddangos yn fwy dynol, yn fwy normal, yn fwy fel person go iawn.

Mmmmmmm.

Pan mae dweud eich bod chi’n trafod y gwir mewn ffordd chwit-chwat yn ennill parch, mae gwleidydda mewn cyflwr anffodus a ddweud y lleia.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s