Canberra – Meinciau o bob math

Cyfarchion o brifddinas Cymanwlad Awstralia.

Mae’r lle yn od ar sawl cyfrif yn y cyd-destun Awstraliaidd.

Mae’n ddinas fawr sy ddim ar yr afordir.

Mae’n ddinas sy wedi’i chynllunio’n fwriadol.

Mae’n ddinas sy’n dibynnu’n llwyr ar lywodraeth.

Nid oes syndod felly ei bod hi’n od!

Wedi i mi weld y Cwnis (Bulldogs sy a chwarawr o’r enw Cooney, felly “Cwnis” amdani!) yn trechu Sydney, rwyf wedi treulio bore braf heulog o hydref yn cerdded o gwmpas canol y ddinas.

Mae’n hanner dydd ac rwyf wedi gweld, o bosib, hyd at ddau gant o bobl.  Mae’r siopau a chaffis ar agor ond nid oes’na neb yn cerdded o gwmpas y lle.

Mae’r lle’n drefnus ac yn dwt, ond yn wag. Gwacter sy’n peri gofid i mi.

Dinas lywodraethol yw hi, felly ond ar ddyddiau’r wythnos waith mae’na bobl o gwmpas.  O ganlyniad mae’na adeiladau tal, crand a di-enaid. Ac mae’na feinciau.  Meinciau a meinciau .  Cannoedd ohonyn nhw.  Rhywle i’r gweision sifil ymlacio a chael smoc ar y slei. Ond ar ddydd Sul ym mis Mai mae’r meinciau’n ymddangos fel creaduriaid metal unig.  Piti trostynt!

Felly, beth mae hyn o oll (f’obsesiwn gyda meinciau) yn golygu? Mewn lle sy’n llwyr dibynnol ar wleidyddiaeth am ei bodolaeth rhaid cofio am y meinciau cefn A blaen ac osgoi “empty chairs at empty tables”!

Mewn geiriau eraill mae eistedd lawr naill ai ar fainc neu gadair neu soffa’n waith 24 awr y dydd. 

Pan mae’r meinciau’n wag mae elfennau o fywyd y ddinas yn wag hefyd. 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s