Rhybudd/Cyfle – Llethrau llithrig

Roedd ‘na son di-ddiwedd am “ansicrwydd” yn ystod y dyddiau diwethaf.  Nawr mae’na lywodraeth newydd, ond – yn fy marn Awstraliaidd i – mae’na lawer mwy o “ansicrwydd” i ddod. 

Ansicrwydd cyfansoddiadol.

Roedd clywed menywod  ar strydoedd Henley-on-Thames ar Newyddion 6 y BBC yn son am beryglon “llywodraeth lleiafrifol” yn dweud cyfrolau.  Roedd y bobl “neis”, dosbath canol uwch yn rhyw led-rybuddio ymateb chwyrn i unryw llywodraeth oedd yn nwylo ASau o’r Alban a Chymru (a Gogledd Lloegr). 

“We are seething” meddai un ohonynt. Wel nawr, mae ganddyn nhw eu llywodraeth mwayfrifol….wel mwyafrifol o safbwynt Lloegr. 

Yn ystod y dyddiau nesaf fe fydd y rhan fwyaf o bobl Cymru a’r Alban yn dechreu meddwl am yr hyn mae’r “llywodraeth mwyafrifol” hwn yn golygu iddyn nhw. A fydden nhw yn “seething” ?

Mae taclo’r argyfwng economaidd yn un peth, mae cadw’r “undeb” yn beth arall. 

Gawn ni weld beth digwyddith ar y llethrau llithrig.

Ac mae’r erthygl yma yn fan cychwyn o bosibl.

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Rhybudd/Cyfle – Llethrau llithrig

  1. O safbwynt cenedlaetholwyr, Cymreig ac Albaniadd, gal hyn fod yn sefyllfa gwerth chweil. Er roedd y canlyniad yn siomedig i PC a’r SNP am na wnaethon nhw gynyddu nifer seddi, bydd yn hynodd iddiorol gweld sut wnaeiff hyn i gyd ‘pan out’. Mae lot o’r gefnogwyr Lib Dems yn flin a nifer a’r rhai a bleidleisodd drostynt yn teimlo eu bod wedi cael eu cam arwain, ac efallai bydd Llafur yng Nghymru a’r Alban yn debygol o fod eisiau ymgiprys mwy o rym oddi ar San Steffan (o’r diwedd).

    Amser difyr i ddod.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s