Llais y bobl

Son am ddrama, son am smonach, son am gyfle.

Roedd dilyn noson yr etholiad yn ystod y dydd Awstraliaidd yn braf iawn.  Rhaid dweud yr oedd gwefan y BBC yn wych ac roedd cael clywed rhaglen Radio Cymru am dipyn yn “treat”!  Yn anffodus, nid oedd gan yr alltudion y cyfle i weld Dewi a Vaughan a Richard Wyn wrthi ar y teledu…mae pob rhaglen arall (Prydeinig, Albanaidd, Gaeleg a Chymreig Saesneg ei hiaith) ar gael.  Mmmmm.

Beth digwyddith ‘nawr? Pa un o’r pleidiau bychain sy eisiau bod yn gysylltiedig a thorriadau mawr a threthi uwch ? Go brin.  Etholiad arall cyn bo hir…cyn gynted ag y bo modd yw’r peth gorau i’r Toriaid. Mae’r cyhoedd wedi lleisio ei anfodlonrwydd gyda’r gwleidyddion, y tro nesaf fe fydd yn ol i’r hen arferion pleidleisio.

O bell, mae’n ymddangos bod pob un o’r arweinyddion Prydeinig wedi methu.

Clegg – addewid y rhifau pol ymhell o’r gwirionedd.

Cameron – o fewn trwch blewyn o fethu’n gyfan gwbl ac yn troi’n Kinnock Glas.

Brown – ble i ddechreu….

Penawadau eraill.

Ceidwadywr Cymraeg eu hiaith yn ennill tir.

Yn yr Alban, fawr ddim newid a’r wlad honno’n symud i ffwrdd yn slo bach.

Gogledd Iwerddon, am unwaith wnaeth ymddygiad gyfrif yn fwy na chrefydd a’r Alliance’n elwa.

Lloegr yn wahanol iawn i weddill y Deyrnas.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s