Storom Ebrill

Dyma’r sgandal fwyaf yn hanes chwaraeon Awstralia.

Mae’r Melbourne Storm wedi colli pob pwynt a ennillwyd ganddynt y tymor hwn, eu dwy bencapwriaeth NRL (National Rugby League) ddiwethaf ac wedi’u dirwyio $1.7m.  Ar ben hynny, nid oes ganddynt y gallu i ennill yr un pwynt am weddill y tymor.

Y rheswm yw eu bod nhw wedi gor-wario ar chwaraewyr ac wedi torri y rhwystr cyflogau (salary cap).  Aeth y clwb ati i dorri’r rheolau er mwyn ennill ac ennill yn dda.  Roedd ‘na ddwy set o lyfrau ariannol ac  roedd ‘na hen ddigon o ddoleri dan y cownter.  Peidiwch a son am bapurau punt mewn sgidiau rygbi!

Trwy gydol yr holl drafodaeth am yr hyn sy wedi digwydd, does fawr neb wedi son am yr hyn mae’r sgandal yn son am natur chwaraeon yn yr Awstralia sydd ohoni. 

Erbyn hyn, nid oes clybiau ond “brands”, nid oes timau ond “groups”, nid oes llwyddiant ond “outcomes”. 

Busnes yw chwaraeon gyda haen tenau o berthyn i gymuned a chymdeithas. 

Rydyn ni gyd yn gwybod hynny wrth gwrs, ond mae’r rhan fwyaf ohonom yn penderfynu anwybyddu’r sgrifen ar y mur.  Rwyf wedi dweud o’r blaen fy mod i’n dwli ar y “Western Bulldogs”, ffordd arall o ddweud hynny yw “rwyf yn dwli ar fenter gyfalafol sy a chi fel ei logo”. Rwyf yn gwybod bod y tim yn grwp o ddynion ifainc sy’n gwneud cyflogau handi am symud pel hir-gron o gwmpas cae chwarae, OND roedd colli ni St Kilda nos Wener yn ergyd drom i’m ysbryd.  Nid yw pris cyfraddaliadau Coca Cola yn cael yr un effaith arnaf!

Efallai y cyfan y gallen ni wneud am gadw chwaraeon mor bur a phosibl yw cadw’r rheolau cyfalafol sy’n perthn i chwaraeon mor dynn a phosibl.

Nol i’r Melbourne Storm, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y tim wnaeth ennill cymaint ar y cae trwy dwyll ddiflannu’n fuan.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s