Pel-droed o bob math

Anafiadau erchyll, cambihafio twp a chyffro di-bendraw.

Dyna’r penawdau  AFL  y penwythnos hon, a dechreuodd y tymor newydd dim ond 3 wythnos yn ol!

Rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n dwli ar Aussie Rules. Mae’r gamp wedi cymryd lle pel droed a rygbi (y ddwy fath) yn fy nghalon. 

Nid yw teledu’n gwneud cyfiawnder i’r hyn sy’n digwydd ar y cae.  Mae’n gem “fawr” gyda’r hyn sy’n digwydd oddi ar y bel yr un mor bwysig a’r chwarae o gwmpas y bel.  Mae’n gymysgedd o gryfder, dawn athletaidd a chreadigrwydd.

Y Fro AFL yw Victoria, De a Gorllewin Awstralia a Tasmania, ond mae’r sawl sy’n rhedeg y peth yn benderfynol o greu timau newydd yn y llefydd annraddodiadol, megis Queensland a De Cymru Newydd.  Ond Melbourne yw calon “footy”.  Mae canol y ddinas yn byrlymu pob dydd Sadwrn gyda lliwiau’r timau lleol i’w gweld ym mohb man ac ar bob dyn … a menyw. Jyst fel canol Caerdydd ar fore gem fawr ym Mharc yr Arfau.

Yn Sydney yr cwestiwn ar ol “beth yw eich enw?” yw “ble ych chi’n byw?”. Mae maestref yn rhoi syniad o sefyllfa ariannol, gwleidyddiaeth a rhywioldeb!

Yn Melbourne yr ail gwestiwn yw: “pwy ych chi’n cefnogi?”.   Rwyf wedi blogio yn Saesneg am AFL os yr ydych chi am wybod tipyn bach mwy am y gamp.

Maen nhw’n chwarae yng Nghernyw ond does dim son am Gymru.  Dewch ‘mlaen Cymry…

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s