Bwrw pleidlais

Mae gwylio ymgyrch etholiadol o bell yn beth rhyfedd, a ddweud y lleiaf.

Dyma fi ym Melbourne’n gwylio a gwrando ar fwletinau newyddion yn y Saesneg ‘r Gymraeg.  Teimlo’n rhan ohoni, ond nid felly ar yr un pryd.

Ond un peth mawr sy wedi fy nharo i o’r cychwyn yw diffygion.

Diffyg ysbryd, diffyg credo, diffyg hiwmor, diffyg ymddiriedaeth, diffyg sbarc, diffyg byw go-iawn.

Mae’r gwleidyddion a’r pleidlaeiswyr yr wyf wedi clywed cyn belled yn swnio’n hynod di-fflach, di-obaith, di  …. “bopeth”.

Sut mae pethau ar lawr gwlad ? Sdim clem ‘da fi gan fy mod i’n byw yn Brunswick West nid Harrow West (hen etholaeth fy mlentyndod) neu Orllewin Abertawe (etholaeth fy mlynyddoedd yn y coleg).

O ganlyniad, rwyf yn addo cau fy mhen am yr ymgyrch am dipyn.  Tipyn o dasg i mi. Ond chi, darllenwyr y blog bach hwn, mwynhewch eich cyfle democrataidd hyd yr eithaf.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s