Pasg a phel droed

Mae dydd Gwener y Groglith wedi bod yn gyfuniad o grefydd a chwaraeon i mi ers lawer dydd.  Y Ba-Bas ym Mhenarth, dechreu cyfnod prysur o bel droed ac yn y blaen.

Ond nid felly y mae yma ym Melbourne.

Nid oes yr un gem o AFL (Aussie Rules) yn cael ei chwarae ar ddydd Gwener y Groglith.

Dywed y sawl sy’n rhedeg yr AFL nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i newid y gyfundrefn ychwaith.  Nawr, mae’r AFl wedi bod ar flaen y gad cyn belled ag y mae gweddnewid y gem yn y cwestiwn.  Mae sawl cefnogwr selog yn ei feirniadu am sarhau llawer o draddodiadau’r gem, ond mae’n sefyll yn gadarn ar y mater hwn.

Pam ?

Mae Awstralia’n wlad eithaf pabyddol ac mae gwreiddiau’r eglwys yn dal yn ddwfn, hyd yn oed yn yr oes fodern sydd ohoni.  Mae gafael yr eglwys yn weddol gadarn ym Melbourne. Felly dim “footy”.  “Mae’n ddiwrnod arbennig” medde’r AFL, “diwrnod i’r teulu”. 

Ond lan sha north (NSW a Queensland), mae pethe’n wahanol.  Mae’r NRL (rygbi XIII) yn chwarae ar ddydd Gwener y Groglith ac yn denu torfeydd sylweddol.  Gyda’r NRL bellach a’i bencampwyr yn byw yn y ddinas hon, daeth tro ar fyd pel droed eleni yn y brifddinas ddeuheol.  Gem NRL rhwng Melbourne Storm a St George Illawarra ar y diwrnod “spesial”.  Tua 25,000 drodd lan i stadiwm y Docklands – dwbl maint arferol y torfeydd go gyfer yr NRL ym Melbourne.

Newid yn dod.  Ond, yn ol adroddiadau, roedd ‘na lawer mwy o fishburgers yn cael eu gwerthu nag arfer !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s