Frwm frwm

Cyfarchion o bencadlys y Grand Prix.

Mae Melbourne yn llawn dynion ifainc a chanol oed yn gwisgo crysau lliwgar gyda hysbysebion drostynt, y rhain yw selogion y ceir cyflym.

Mae’na Awstraliwr gyda siawns go dda o gipio’r faner du a gwyn – Mark Webber yw hwnnw.  Amser a ddengys (Postwyd am 1230 amser Melbourne 28/03/2010).

Fel arfer, mae Melbourne’n ddinas sy’n hoff o’r celfyddydau a choffi a’r bel-droed leol.  Mae’r GP yn rhywbethh anarferol iawn ac mae llawer o drigolion y ddinas yn casau’r ras.  Cynhelir y GP ar safle Albert Park nid nepell o ganol y ddinas a reit ynghanol un o maestrefi mwya ariannog y ddinas. 

Ni allaf (a sawl un arall) ddianc rhag hon (y ras) gyda’r frwm frwm cyson trwy gydol yr wythnos ac ymddygiad “lliwgar” y dorf.

Ond fe ddaw acubiaeth, o bosib, o’n cyfeillion cynnes yn Sydney. 

Mae llywodraeth daleithiol De Cymru Newydd yn ysu “dwyn” y GP ac mae ganddi gynllun clyfar (ys dywed Baldrick).  Ei bwriad yw cynnal y ras yn ystod y nos o gwmpas hen safle”r Gemau Olympaidd yng ngorllewin Sydney.  Mae’r amseriad hwwn yn llawer mwy dymunol i ddarlledwyr Ewropiaidd.

Daw cytundeb y GP i ben ym 2014.  A chyda trethdalwyr Victoria’n gwario rhwng 30 a 40 MILIWN o ddoleri i gynnal y ras pob blwyddyn, fe fyddai sawl gwleidydd craff yn syweddoli bod colli’r Grand Prix ddim yn ergyd marwol i ni. Mae eleni’n flwyddyn etholiad yn y dalaith hon.

Fe fyddai arbed milyinau trwy golli’r GP yn bris “driveaway” derbyniol iawn.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s