Y Tasmaniaid Olaf … a diweddaraf

Blynyddoedd maith yn ol, pan roeddwn yn ifainc, ffol a chwbl lletchwith, roedd’na raglen ddogfen ar BBC Cymru yn olrhain hanes y Tasmaniaid Olaf.  Ac roedd hi yn y Gymraeg AC yn y “slot” wedi’r brif newyddion am 9pm. 

Rhys Jones oedd yn gwneud y rhaglen a wnaeth ddisgrifio’r triniaeth gwarthus o’r Aboriginiaid ar ynys Tasmania a’r ffordd wnaeth yr awdurdodau sicrhau eu tranc. Ym 1977 neu 1978, dyna’r cyfan rown i’n gwybod am “Yr Ynys Afalau”.  Nid felly yn awr !

Fe gynhalwyd etholiad taleithiol ar yr ynys dydd Sadwrn ac mae’r canlyniad yn un tra ddiddorol. Peidiwch a phoeni, nid wyf yn bwriadu troedio ar dir gwleidyddol Vaughan Roderick, ond mae’r sefyllfa’n werth ei thrafod.

Rhyddfrydwyr 10 (39.1%). Llafur 10 (37.1%). Gwyrddion 5 (21.3%).  Dyna’r canlyniad tebygol. Diddorol ynte?

Mae gan Tasmania gyfundrefn etholiadol gwych, ond cymleth. Hare Clark yw hi. Mae’n sicrhau bod nifer y seddau’n fwy na lai’n adlewyrchu maint y gefnogaeth i bob plaid.  Ac ar ben hynny, mae pob ymgeisydd o bob plaid yn ymddangos ar frig y papur pleidleisio mewn  “rotation”.  Nid oes ‘na “donkey vote” o ganlyniad, sef y sawl sy ar frig y papur yn cael 5% o’r bleidlais doed a ddelo, gan ei fod … ar ben y papur!  Democratiaeth Fyw go iawn dywedwn i.

Dyna paham mae pethau mor ddiddorol.  Mae etholwyr Tasmania yn ethol eu haelodau seneddol ar sail eu plaid AC eu perfformiad/eu haddewidion.  Mae’n annoddach dilyn chwant pennaethiaid y pleidiau na dilyn eich gwir deimladau.

Mae’r gyfundrefn yn debyg, i ryw raddau, i honno yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Mae’na bum etholaeth yn Tasmania ac 5 aelod seneddol ym mhob un.

Na fydd y canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi am dipyn eto, ond bydd rhaid i ddwy o’r dair plaid drafod cyd-weithio o ddifrif.  Am y diweddara ewch yma.

Ac ymateb yr “arbennigwyr”.  Mae Tasmaniaid yn gwynebu cyfnod estyniedig o ansicrwydd gwleidyddol. “Mae pethau yn gwbl di-drefn” medden nhw.

Ac fy ymateb i ?  Da iawn Taswegians !  Am unwaith fe fydd gwleidyddion yn gorfod siarad gyda’u gilydd yn hytrach na siarad at  eu gilydd.  Rhyfedd o beth.

Buddugoliaeth i’r bobl, neu yng ngeiriau’r anfarwol Steve Tuck wrth iddo golli etholiad yn Califorinia ym 1966: “The people have spoken, the bastards.”

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s