Nid wyf erioed wedi gweld tywydd o’r fath. Roedd e’n ddigon i yrru rhywun i geisio creu cerdd.
Rwy’n cofio ( jyst) eira mawr 1963, eira mwy 1981 (sic transit Darlledu Caerdydd) a storom enfawr Sydney ym 1999 (llechi o Gymru’n achub y dydd ac ambell i do ym maestrefi dwyreiniol y ddinas).
Ond, roedd yr awr a gychwynnodd am 2.30 ar ddydd Sadwrn Mawrth y 6ed yma ym Melbourne yn rhywbeth gwbl gwahanol.
Ar radar swyddfa’r tywydd roedd y storom yn gymysgedd o felyn, coch ac – yn fygythiol iawn – du. Du, du, du.
Fe drodd canol prynhawn dechreu yr hydref yn ganol nos gwyllt yn sydyn iawn.
Ac yna, y glaw a’r cenllysg. Roedd llen llwyd wedi’i dynnu lawr dros ganol dinas o bedair miliwn o bobl.
Nentydd nid strydoedd a welwyd, aeth ceir newydd o tegannau sgleiniog i “right offs” llwyr mewn eiliadau.
Aeth ein hymateb o “wow” i “arglwydd mawr” mewn munudau.
Ble oedd y tri arall o’r “Four Horsemen of the Apocalypse” ?
Dywedir bod yn bosib gweld pedwar tymor mewn un diwnod ym Melbourne.
Mae’n hen bryd nawr i rywun bathu cliche arall tybiwn i.