Wedi went a wedi dod ‘nol

Ond ychydig ddyddiau wedi i mi flogio am y perthynas rhwng Melbourne a Sydney, fe gefais “wahoddiad” i dreulio ychydig o amser yn y ddinas emerald (Sydney) trwy fy ngwaith.

Rwyf wedi blogio am rhan gyntaf o’m hymweliad yn y Saesneg ac fe fydd ‘na lawer mwy i ddod.

Yn y fan hyn, rwyf am son am y teimlad a gefais wrth ddychwelyd neithiwr (Mercher 17 Chwefror).

Mae “dychwelyd” yn deimlad arbennig.  Mae’n llawer mwy na “dod nol” ac mae’n wahanol i “ddod adref”.  Dyma ni, meddech chi, mae e’n chwarae gemau geiriol eto !  Nid felly…coeliwch neu beidio!! 

Wrth i mi lanio ynm maes awyr Tullamarine rown i’n syllu trwy’r ffenestr ac edrych ar oleuadau Melbourne.  Mae’na lawer ohonyn nhw gan fod y ddinas mor eang – mae hi’n ymestyn ar draws degau o kilometres o gwmpas Bae Port Phillip.

Ta waeth, roeddwn i’n meddwl wrth syllu, “mae un neu ddau o’r goeuadau  lawr fan ‘na yn fy stryd” a theimlais yn reit dda wrth feddwl. Roedd’na gysylltiad A pherthynas.

A ble oedd y goleuadau cartrefol hynny ?  Ar gornel strydoedd Albion a Bent ! Ac ar draws y stryd – Wales Street.

O fewn hanner awr o lanio, roeddwn i ‘nol yn fy fflat ac yn gwenud paned o de.  Wedi dychwelyd go iawn.

Gyda llaw, enw f’adeilad yw – Bellevue.

Karma a kismet.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s