Dinas ryngwladol

Mae cystadeluaeth yn beth braf ar adegau, ond weithiau mae’r cystadlu’n ddi-feddwl.  Cystadlu er mwyn cystadlu, brwydro er mwyn brwydro.

Dyna fel y mae hi rhwng Melbourne a Sydney.

Nid oes casineb rhwng y ddau le, ond nid oes lawer o gariad chwaith.

Rwyf wedi byw yn y ddwy ddinas, ac mae’na bethau da i ddweud am y naill a’r llall.

Mae Sydney yn fwrlwn o le.  Swnllyd, di-drefn, hyderus, hardd o ran lleoliad ac … ansicr.

Mae Melbourne yn fwy ewropiaidd. Cadarn, llawn hanes, trefnus … llai ansicr.

“Dinas ryngwladol” yw Sydney yn ol ei thrigolion.  Maen nhw’n son am hyn byth a beunydd. Saif Sydney yn rhengoedd Efrog Newydd, Hong Kong, Berlin, Paris a Llundain meddan nhw.  Sori bois, ond mae Sydney yn ddinas fawr gyda harbwr pert a phont enwog! Nid yw hynny yn beth drwg fel y cyfryw.

Fel un a gafodd ei fagu ym maestrefi Llundain mae’r syniad yn chwerthinllyd.  Nid yw dinasyddion dinasoedd rhyngwladol BYTH yn son am y ffaith eu bod nhw’n byw  mewn dinas ryngwladol ! Maen nhw’n gwybod wrth reddf.  Nid oes rhaid iddyn nhw brofi unrhywbeth i neb.  Mae’r llefydd yn naturiol yn y ffordd y maent yn dylanwadu’r byd – yn gelfyddydol, yn gerddorol, yn athronyddol ac ati.  Mae Sydney yn lle sy’n mwynhau “joio” – lle i bartio, nid pendroni am y byd a’r bettws.

Ac yna Melbourne.  Mae’r lle’n ddigon sy’n ddigon hapus yn fod yn ryngwaldol am bythefnos y flwyddyn – pythefnos y tennis.

Mae’r lle yn llawn o bobl o bob cwr … yn enwedig Ewrop.  Mae Alemaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg ac mwy i’w clywed trwy’r ddinas.  Ond nid oes son o gwbl am “ryngwladol”.  Mae’r sefyllfa fel y mae, does dim pwynt yn gor-ddweud yr hyn sy’n amlwg.

Ac yna, dyna’r gwahaniaeth rhwng Sydney a Melbourne. Y naill yn ysu bod rhwybeth, y llall yn gyfforddus gyda’i sefyllfa – y gwanhaiaeth rhwng y ffasiwn ddiweddara a hoff hen siwmper neu ffrog. 

Mae hon yn rhan o gyfres! Rhan o gynllun blogio i adlewyrchu’r Awstralia sydd ohoni …

2 Sylw

Filed under Uncategorized

2 responses to “Dinas ryngwladol

  1. Edrychaf ymlaen i ddarllen mwy o’r gyfres🙂

  2. Hysbysiad cyfeirio: Sydney here I come … ooo the irony « The Full Catastrophe

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s