Hoyw ond rhai’n hwyr i ddweud

Yn ol yr hyn rwyf yn deall, nad oedd cyhoeddiad Gareth Thomas ei fod e’n hoyw’n syndod enfawr. Ond mae dweud yn gyhoeddus yn beth mawr i unrhyw unigolyn.

Pob clod iddo am fod mor onest ac agored wrth iddo deithio ar hyd taith bersonol annodd.  Mae Gareth wedi dweud y gwir pan yr oedd yn barod i wneud hynny. Mae “dod mas” yn rhywbeth cwbl personol AC unigryw. 

Ond un cwestiwn bach sydd gennyf am amseru: pam roedd y stori ar safle “BBC Wales” o 0001 GMT ymlaen ar ddydd Sadwrn, tra roedd safle “Cymru’r Byd” hebddi am oriau ac oriau.  Gofyn ydwyf , nid beirniadu. Mae prinder “adnoddau” ym myd y cyfryngau ym mhob man, rwyf yn delio a fe trwy’r amser yn fy ngwaith.  Ond roedd hon yn stori FAWR ac roedden ni, y sawl sy’n dibynnu ar “Cymru’r Byd” am wybodaeth am Gymru Fach, heb unryw “coverage” amdani am amser hir. Rwyf yn edrych ymlaen at weld a chlywed triniaeth yn y Gymraeg am stori Gareth a’r hyn mae’n golygu. Gwell hwyr na hwyrach…

Rwy’n cofio anfodlonrwydd pobl hoyw Cymraeg eu hiaith i son am ei rywioldeb pan rown i’n gweithio fel newyddiadurwr yng Nghymru 20 myledd a mwy yn ol.  Roedd un rhaglen yr oeddwn i yn gysylltiedig a hi yn “gofiadwy”.  Roedd hi’n ymwneud ag HIV/AIDS a roedd ambell i air yn creu problemau i sawl un.  Geiriau yn disgrifio rhyw a sut i’w wneud!

Ers hynny, mae Cymru wedi tyfu lan a diolch i’r drefn am hynny.

Ac mae Gareth Thomas wedi chwarae ei ran.  “Best on ground” fel yr ydyn ni’n dweud yn Awstralia!

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s