Hon arall

Mae ymwelwyr yn werth eu croesawu. A nid am y rhesymau y fyddech chi’n meddwl amdanynt pob amser.

Fel rhywun sy’n “Awstraliwr Newydd” (“certified Australian” yn ol rhai h.y., “wedi fy dinesyddio”) nid yw fy nghafael ar hanes y lle ymor gyflawn ag y dylai hi fod.  I fod yn onest, rwy’n llawer mwy gwybodus am y wlad a’i gwleidyddiaeth a’i chyfansoddiad na’r rhan fwayf o bobl – nid yw’r Awstraliwr arferol yn meddwl rhyw lawer am bethau a fu, ar wahan i’r Aboriginiaid wrth gwrs sef yr Awstralwyr Gwreiddiol!

Ta waeth, rwy’n hoffi gwybod am y llecyn yr wyf yn sefyll arno.

Felly roedd croesawu ymwelydd o bell (pun intended) yn rhoi’r cyfle i mi ddysgu mwy am Melbourne (dim treigliad – mae “Felbourne” yn arwain at buns (intended) am mel a melyster ac yn y blaen.  

Felly, mae treulio dyddiau ar trams yn mynd o gwmpas y lle a’r ymwelydd (sy’n rhedeg rhyw flog rhywle neu’i gilydd) yn gofyn cwestiynau di-ben draw am hyn a llall a minnau yn gwybod fawr ddim wedi ysgogi fi i ddysgu llawer mwy am hanes y ddinas hon a oedd yn brifddinas Awstralia am fwy nag ugain mlynedd.

Roedd mordaith i lawr yr afon Yarra ar ddiwrnod crasboeth (39C) yn agoriad llygaid i hanes y lle a phwysigrwydd masnach iddo. Er bod yr “wharves” yn pydru ac adeialdau modern, ucel, sgleiniog yn codi yn eu lle mae’na ddiogon o olion morwrol i greu darluniau yn y meddwl o’r gorffennol.

Heb yr ymwelydd a’i frwdfrydedd i fynd am drip mewn cwch ni fyswn i wedi mentro ar daith a wnaeth rhoi tipyn o flas i mi o hanes fy nghartref.

Beth yw ots gennyf i am Melbourne ?

 Damwain a hap yw fy mod yn ei libart yn byw.

OND, mae’na lawer i ddysgu diolch i ddamwain a hap .. ac ymwelwyr!

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s