Nadolig heulog

Hwn fydd y trydydd Nadolig ar hugain i mi dreulio yn Awstralia.  Felly mae tua hanner profiadau Nadoligaidd fy mywyd wedi digwydd o dan haul crasboeth neu, o leaiaf, mewn shorts a chrys T.

Ond, ac maen’n “ond” sylweddol, rwyf yn dal i deimlo yn lletchwith braidd wrth fynd trwy’r holl fusnes “ho, ho, ho” ymhell i ffwrdd o gartre Rudolph a Sion Corn. Heb son am “Christmas Night With The Stars.”

Mae gweld dynion eira mewn ffenestri siopau wrth ochr bikinis and thongs yn ddigon i wneud unrhywun deimlo’n “od”.

Rwyf yn dal yn ffyddlon i draddodiad y twrci a phwdin – nid Nadolig yw cimwch a chorgimychiaid yn fy marn i.

Mae’n adeg y gwyliau haf hefyd.  A rhywffordd, ni allaf ddelio a gwyliau haf A Nadolig A blwyddyn newydd ar yr un pryd.  I mi, gwyliau haf yw misoedd Awst gwlyb gydag ambell wellington boot mewn cyd-destun eistedddfodol !

23 Nadolig yn Awstralia ac rwy’n dal yn “Pom” o gwmpas y goeden gyda’r goleuadau sy’n fflachio.

Advertisements

4 Sylw

Filed under Uncategorized

4 responses to “Nadolig heulog

  1. Mae fy mrawd-yng-nghyfraith wedi allfudo i Seland Newydd ers tua 6-7 blynedd a dw i’n dal yn methu dychmygu sut ddiwrnod dolig mae o’n gael. Mae’n swnio braidd yn swreal bod yna ddynion eira yn eich siopa ganol haf – mae’n dangos bod meddylfryd ‘Englsihman abroad’ (a phob cenedl gogleddol arall ran hynny) yn dal i fodoli acw, hyd yn oed ymysg yr rhai’n Awstraliaid 6,7 neu 8 cenhedlaeth erbyn hyn.

    Beth am dwrci, ydy hi’n hawdd dod o hyd i beth? Ac os ydy, a’i dim ond mewnfudwyr sy’n ei fwyta, ta ydy rhai Awstraliaid (sydd ddim ar y traeth!) yn ei fwyta?

    Er mai gadael sylw ar un o dy gofnodion mwy ysgafn ydw i, dw i’n wirioneddol mwynhau y rhai eraill mwy difrifol am wleidddiaeth (a chwaraeon).

    • fullcatastrophe

      Dilch am y geiriau caredig! Am dwrci – pethau digon prin ydyny nhw er gwaethaf adeg y Nadolig. Av yna mae’na creaduriaid rhyfedd yn yr arch-farchnadoedd…twrcis heb goesau…sef “breast” yn unig. Mae aderyn digon mawr i 4 yn costio tua $30.

      Ac mae’n wir, ni yr Awstraliaid Newydd, sy’n ffafrio’r hen ffyrdd o fwyta.
      Ond mae hufen ia pwdin Nadolig yn werth ei flasu!!

  2. Elin

    Rwy newydd ddod nol adre i Gymru ar ol wythnos o weithio yn Kuwait, ac fe ges i syndod mawr o weld yr holl addurniadau a choed Nadolig mewn gwlad Foslemaidd. Wrth gwrs mae nifer sylweddol o weithwyr tramor yn Kuwait (nhw sy’n neud y rhan fwyaf o’r gwaith yn o beth wella i) ac mae gryn dipyn o’r rheiny yn dod i wledydd fel y Philipinnes ac yn Gatholigion. Ond roedd yn amlwg hefyd bod y Kuwaitis brodorol yn mwyhau “trappings” Nadoligaidd!!

    • fullcatastrophe

      Hi Elin Wyn.
      Roedd cyfaill yn dweud union ur un beth am Kuala Lumpur ym Malaysia. Roedd e wedi treulio mis yno, a dywedodd bod yr addurniadau yn KL Moslemaidd yn well o lawer na Melbourne Cristnogol !

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s