Sgarmes gwleidyddol a’r Walabiaid

Penwythnos fawr – arweinyddiaeth yr wrthblaid yn y wlad hon dan fygythiad A gem fawr o rygbi.

Yn gyntaf, chwaraeon.

Awstralia i chwarae Cymru a’r criw rygbi fan hyn yn ofni crasfa.  Rwyf wedi trefnu sawl bet gyda chyd-weithwyr ac rwyf yn hyderus dros ben.

Un o’m hoff atgofion chwaraeon yw tim rygbi Awstralia a deithiodd i dde Cymru ym 1981-82.  Aussies o’r safon gorau oedden nhw o dan hyffordiant Bob Templeton.  Nid un o’r teithiau mwya llwyddiannus oedd hi, ond fe gawsan nhw hwyl ym mhob man.

Tim ar drothwy pethau mawr oedden nhw – y gamp lawn ym 1984 – ond ar y daith cyn honno roedd y garfan gyfan yn awyddus i siarad a chyw-newyddiadurwr fel fi a rhannu joc. 

Erbyn 84 roeddwn i ar fy ngwyliau cyntaf yn Awstralia ac roedd tim Alan Jones yn gwneud marc.

Nawr gwleidyddiaeth.

Mae’r ETS rown i’n son amdano mewn blog arall yn bygwth chwalu’r blaid ryddfrydol.  Mae’n stori enfawr wrth i ddwy asgell yr “eglwys lydan” sy’n ffurfio’r blaid yn ymladd yn ffyrnig.  Am y cefndir ewch i safle yr ABC.  Fe fydd’na bleidlais – neu “spill” – dydd Mawrth.  Pe tai’r Rhyddfrydwyr yn penderfynu symud i’r dde, yna fe fydd  ‘na dro ar fyd gwleididdiaeth Awstralia.

Dyma’r brif bobl bwysig:

Malcolm Turnbull – yr arweinydd sy’n cefnogi yr ETS (Emissions Trading Policy)

Joe Hockey – cefnogwr i Malcolm Turnbull ond ymgeisydd cyfaddawd posibl

Tony Abbott – ymgeisydd asgellwyr de y Rhyddfrydwyr a cheidwadol iawn ar faterion cymdeithasol

Am fwy o wybodaeth….

A phenwythnos nesaf, cynhelir dau is-etholiad mewn seddau diogel i’r ……. Ryddfrydwyr!!!!

Sbort o bob math y dyddiau hyn yn y wlad enfawr frown hon!

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s