Awyr poeth – DIWEDDARIAAD

ENGLISH VERSION A LA GOOGLE TRANSLATE

Yn nraddodiad Sesame Street, mae’r blog hwn yn cael ei gyflwyno gan y llythrennau “E”, “T” a “S”.

Mae’na son byth a hefyd y dyddiau’ma yn Awstralia am yr “Emissions Trading Scheme“.

Am y cefndir, darllenwch wedi’r “###”!!

Ond am nawr, dyma’r sefyllfa fel y mae ar ddydd Mercher!! Ac mae pethau’n symud yn gloi!

Ers cyhoeddi’r post mae’r busnes ETS wedi mynd yn smonach llwyr yn rhengoedd y gwrthbleidiau.  Mae’r mater bellach yn holl bwysig i arweinyddiaeth y glymblaid.  Malcolm Turnbull yw’r arweinydd pressennol – enw cyfarwydd i sawl un ohonoch o bosib.  Fe oedd cyfreithiwr Peter Wright (“Spycatcher“) mewn brwydr gyfreithiol yn erbyn y llywodraeth Thatcheraidd.  Hefyd, Turnbull oedd pennaeth yr ymgyrch i droi’r wlad hon yn weriniaeth.   Cymeriad lliwgar, pen-stiff  ac, yn llygaid rhai o’i blaid a thu allan,  heb fod yn “Lib” go iawn.

Mae e wedi llwyddo, yn ei eiriau e, i gael mwyafrif y tu fewn i’r glymblaid sy’n gefnogol i’r ETS ar ei newydd wedd.  Ond nid yw’r stori hon drosodd o bell ffordd! 

####

Pam yr holl cecru ????????

Mae’r llywodraeth Llafur yn ysu cael mesur trwy’r Senedd CYN gynhadledd Copenhagen mis nesaf.  Mae’r gwrthbleidiau (y Rhyddfrydwyr a’r Cenedlaetholwyr – Liberals & Nationals) yn gwrthwynebu unrhywbeth fydd yn effeithio ar ffermwyr a’r diwidiant cloddio. Dyma’r bobl sy’n cadw Awstralia i fynd yn economaidd.

Dadl gwrthwynebwyr yr ETS yw y dylid aros am wledydd eraill i benderfynu ar eu polisiau cyn i ni benderfynu gan fod cymaint o swyddi yn y fantol yn y wlad hon.  Ac ar ben hynny mae’na nifer sylweddol o wleidyddion ceidwadol sy’n amau’r gwyddoniaeth.  Mae’na gymeriad lliwgar yn eu plith. Dyma’r sefyllfa y tu fewn i’r glymblaid o bleidiau ar feinciau’r gwrthbleidiau.

Mae’r llywodraeth a’r gwarthbleidiau yn cynnal trafodathau ar hyn o bryd ond go brin y bydd’na gyfaddawd dderbyniol.

Y canlyniad ? Os mae’r ETS yn methu yn y “Senate” (Ty’r Arglwyddi Awstralia OND wedi’i ethol!)  yna fydd gan y brif weinidog Kevin Rudd yr hawl i alw etholiad cyflawn – sef pob aelod o’r ddau dy seneddol yn gwynebu’r etholwyr. 

Hwn fyddai yr etholiad cyntaf wedi’i alw ar sail newid hinsawdd y tywydd mewn gwald ddatblygiedig hyd y gwn i. 

Fe fyddai’n werth i chi gadw eich llygaid ar y stori fach hon menw gwlad bell i ffwrdd!

Am fwy am y ddadl gwrandewch yn astud ar y drafodaeth hon rhwng dau golofnydd ar raglen “Insiders

Advertisements

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Awyr poeth – DIWEDDARIAAD

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Sgarmes gwleidyddol a’r Walabiaid « O Bell

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s