Aur, aur , aur … Nid popeth melyn ?

Nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith bod rwyf wedi blogio am chwaraeon cymaint wrth lansio’r blogio Cymraeg ‘ma.

Chwaraeon yw crefydd Awstralia.  Ac eglwys-gaeiriol y credo yw’r Gemau Olympaidd. 

Mae gweld gwlad fach (o ran poblogaeth) yn y pum uchaf ar y rhestr medalau yn beth yr ydynm yn ymfalchio ynddo.  Hwn yw’r gwrthwyneb i’r “cultural cringe” !  Ond nid yw ennill medalau’n rhad.  Mae milyniau a milyniau yn cael eu gwario ar yr “AIS“, sef Sefydliad Chwaraeon Awstralia.

Ond mae’r gwario hwnnw o dan fygythiad. Mae dadl wedi codi ynghylch a ddylid parhau gwario arian sylweddol ond er mwyn ennill medalau, tra mae safonau iechyd y boblogaeth gyffredinol yn syrthio – gan eu bod nhw’n gwylio chwaraeon yn hytrach na chymryd rhan.

Fe ddaw adroddiad David Crawford a gomisynwyd gan y llywodraeth ffederal wrth i bobl sylweddoli y bydd Awstralia’n debygol o golli ei lle ymlith gwledydd mawr y Gemau Olympaidd yn 2012, gan fod cymaint o wledydd eraill wedi dilyn yr esiampl o wario a gwario … a gwario.

Yn y bon, mae Crawfrod yn awgrymu y dylai’r llywodraeth gwario mwy o bres ar gampau cymunedol a llai ar y campau lleiafrifol sy’n rhan o’r Gemau Olympaidd.  O ganlyniad, er enghraifft,  fe fyddai bowls ar ei hennill ar draul saethyddiaeth.

Am ymateb gan brif sylwebyddion chwaraeon, dyma ymateb Peter Wilkins o’r ABC a Greg Baum o bapur newydd yr “Age”.

Am well syniad o lawer o’r sefyllfa sydd ohoni yn y wlad frown enfawr hon, dyma’r anfarwol John Clarke (o Seland Newydd fel y mae’n digwydd) a Brian Dawe.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s