Gemau

Melbourne yw prifddinas chwaraeon Awstralia heb os nac oni bai.  Dyna un o’r resymau rwy’n dwli ar y lle.

Ond mae rygbi wedi bod yn dipyn o “side show” i atyniadau fel yr “Open” tennis, y Grand Prix, y gem brawf griced adeg y Nadolig a’r tymor pel-droed awstraliaidd (AFL).

Cyrraeddodd rygbi tri-ar-ddeg (o’r diwedd) yn y nawdegau. Ond er gwaethaf ennill y pencampwriaeth NRL teirgwaith, mae’r Melbourne Storm wedi methu a denu llawer o gefnogaeth.  Tua 12-15,000 yw’r dorf arferol i’w gwylio nhw wrth gymharu a’r 25-50,000 sy’n mynychu gemau’r AFL yn ystod tymor arferol.  Alltudion o Seland Newydd, De Cymru Newydd (NSW) a Queensland yw mwyafrif cefnogwyr y Storm. Yn wir, prif gefnogwr y tim yw News Corporation, sy’n berchen y clwb ac yn rhoi sylw eang i’r clwb yn eu papurau.

Tro rygbi pymtheg bob ochr i herio’r gyfundrefn bel-droed yw e ‘nawr. Mae’r drwydded ddiweddara yng nghystadleath rygbi “Super” , lle mae timau o’r wlad hon, Seland Newydd a De Affrica yn cymryd rhan., wedi’i rhoi i Melbourne.

Yn ddigon rhyfedd,  mae gan rygbi go iawn llawer gwell cyfle i “dorri trwodd” yn y ddinas hon na rygbi tri-ar-ddeg, er gwaethaf  llwyddiant y Storm.

Mae rygbi wedi cael eu chwarae yn nhalaith Victoria ers canrif a mwy yn yr ysgolion preifat ac  mae sawl Wallaby wedi hannu o’r dalaith hon.  Ac ar ben hynny, Melbourne yw lleoliad nifer helaeth o gwmniau mawrion Awstralia. 

Dynion busnes a chyn-ddisgyblion ysgolion “posh” = Ra Ra !

Fe fydd y tim newydd   – y “Rebels” mae’n debyg fydd yr enw – yn denu chwaraewyr o bob cwr o’r byd, gan gynnwys yr Ariannin, gwlad sy wedi bod ar y tu fas i ryw raddau yn y byd rygbi taleithiol-ryngwladol sydd ohoni’r dyddiau hyn.

A’r newyddion da i’r Rebels (ac i’r Storm).  Fe fydd’na stadiwn newydd sbon ar eu cyfer.  Fydd ddim rhaid iddyn nhw chwarae ar gael siap anghywir, sef cae criced/AFL. 

Edrychwch ar ogoniant y “Rectangular Stadium”!

A chan y tim newydd ? ” Hen rebels fel ni” ??!!

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s