Clymwch fy ngangarw i lawr, dyn yr adran chwaraeon

Pethau rhyfedd yw geiriau.  Maent yn dweud cyfrolau!

Roeddwn i’n gwylio “The Football League Show” y BBC ar-lein heddiw gan fod Abertawe a Chaerdydd yn chwarae yn erbyn eu gilydd.

Pum gol, drama o’r cychwyn i’r diwedd a theimladau cas rhwng y ddau dim – dim llawer o newid ers fy nyddiau fel gohebydd Sain Abertawe mewn sied ar ben to’r eisteddle yn yr Vetch. 

A dim llawer o newid o gyfeiriad Llundain a chyflwynwyr sgleiniog, di-fygythiol y rhaglen chwaith.  Roedd y gem hon yn destun “canu yn y cymoedd” meddai’r cyflwynydd.

Ie…fe ddywedodd hynny. “The game they’ll be singing about in the valleys.”

 Blydi hell. Neu’n hytrach, “indeed to goodness, look you.

Nurse, the screens – get me Paul Robeson and a male voice choir and make it snappy.”

Does dim clem ‘da’r bobl ‘ma.  Nid yw rhai pethau byth yn newid.  Ond, mae Cymru wedi newid … ac i’r gwell tybiwn i.

Ar ol clywed y fath rwtsh fe wnes i reidio fy ngangarw i’r bilibong agosaf a chwarae fy digeridw tra’n yfed XXXX.

Ystrydebol ? They don’t the meaning of the word bach….”

Ol Nodyn

Gwyliais DVD o’r Llewod yn chwarae’r Crysau Duon ym 1971 yn Wellington…Gerald Davies, JPR, Barry John, Willie John, Mike Gibson … dyddiau da.

Roeddent yn canu yng ngymoedd y Lower Hutt y diwrnod hwnnw.

Advertisements

2 Sylw

Filed under Uncategorized

2 responses to “Clymwch fy ngangarw i lawr, dyn yr adran chwaraeon

  1. Harri

    Da! – difyr iawn Andy, mi fydda i siwr i daro heibio bob hyn a hyn i ddarllen d’adroddiadau.
    Hwyl – H.

    • fullcatastrophe

      Diolch yn fawr….rwyf yn ceision dod o hyd i’m “Geiriadur Mawr” mewn bocs yn y “lock up”… diolch i’r we nid yw fy nghymraeg wedi gwaethygu rhyw lawer. Henffych i Clic a BBC Cymru”r Byd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s