
Yr wyf eisiau son am fy nghariad cyntaf.
A nid mater hawdd yw e, gan fod y cariad hwnnw o dan straen yn y wlad hon.
Am dros hanner canrif y mae’r peiriant di-wifr wedi codi gwefr arnaf.
Fel darlledwr ac fel gwrandawr yr wyf wedi rhannu profiadau gwych a gwael yn ei chwmni ers i mi ddechreu chwarae ‘da’r knobs ar y set mawr, brown oedd gennym ar ben silfoedd y gegin.
Cariad pur mae ‘di bod ar hyd y blynyddoedd, ond yn ystod y dyddiau diwethaf mae’r berthynas wedi suro.
Sôn yr wydwyf, wrth gwrs, am gythrwbl yr alwad ffôn hynod anffodus o orsaf radio 2DayFM i Ysbyty y Brenin Edward VII.
Fel sôniais i ar y raglen Taro’r Post, yr oedd y drasiedi a ddigwyddodd i teulu Jacintha Saldanha a’r argyfwng sy’n tynnu dau gyflwydd radio i ddyfnderoedd ysbryd yn anochel.
Gyda bron pob gorsaf radio masnachol FM yn y wlad “llawn jocyrs” hon yn defnyddio galwadau pranc fel eu bara beunyddiol i ddiddanu cynulleidfa ifainc di-hid.
Yng ngeiriau’r athronydd afarwol hwnnw Homer J Simpson: “It’s funny because I don’t know him.”
Fel un sy wedi gweithio yn y sector masnachol y byd darlledu, fe allaf ddweud wrthoch y mae’r llawer rhy ormod o’r sawl sy’n gweithio ynddi yn llawn ofn AC uchelgais.
Cymysgedd beryglus os fuodd’na un erioed.
Cyflwynwyr, cynhyrchwyr a phobl gwerthu hysbysebion sy’n ysu “dod ymalen” yn y diwidiant tra’n gwybod bod ‘na lu o bobl eraill o’r cyrsiau cyfryngol di-ri yn aros i gymryd eu lle nhw.
O ganlyniad mae pobl yn gwneud yr hyn sydd eisiau i’w cadw nhw yn y job ac i wneud argraff.
Ac ar ben hynny mae llawer iawn o bobl y cyfryngau’n byw mewn byd o bobl cyfryngol eraill - y cyfryngis bondigrybwyll.
Felly mae eu cysylltiad â’r gymuned ehangach yn wan ar y naw.
Dyma i chi awyrgylch afiach a pheryglus.
Ac mae’r galwadau pranc yn rhan o’r broses.
Ffordd hawdd o “siocio” a “diddanu” dros dros ydyn nhw ac mae’r gynulleidfa wrth eu boddau wrth wrando.
“It’s funny because I don’t know him.”
Doniol ‘te.

Tra mae cyfranddaliadau Southern Cross Austereo yn colli tir, y cyflwynwyr yn gwynebu diwedd gyrfa a’r wasg yn gwledda ar bob tamaid newydd yn y stori, yr wyf am ofyn a ffug-ateb cwpl o gwestiynau syml sydd, yn fy marn i, yn mynd i wraidd y sefyllfa.
C: Beth yw pwrpas gorsaf radio masnachol trwyddedig gwneud galwadau ffôn pranc ?
A: I ddiddanu, am dipyn bach o sbort.
C: Ydych chi’n derbyn fe allai galwadau o’r fath codi embaras ar y bobl sydd yn eu derbyn.
A: Tipyn o sbort yw e.
C: Ond mae codi embaras yn rhan o’r “sbort” onid yw e?
A: I ryw raddau, ydy.
C: Pe tai rhywun yn eich galw chi ar y ffôn a’ch twyllo ac yn darlledu’r peth – a fyddech chi’n ”mwynhau” y profiad.
A: Fel dywedais i, mae’n dipyn o sbort.
(SAIB)
C: A ydych chi’n derbyn mae’r wahaniaeth rhwng teimlo embaras a chywilydd yn un fach iawn.
A: Efallai.
C: Ond mae’na gysylltiad rhwng y ddwy oes e ?
A: Ummm…oes. Weithiau.
C: Mae’na gysylltiad.
A: Oes … nid yn aml. Ond oes.
C: Felly, a ydych chi’n derbyn a allai godi embaras neu gywilydd ar rywun mewn ffordd gyhoeddus cael effaith “anffodus” mewn ffordd emosiynol neu seicolegol ?
A: “Sbort” yw’r galwadau ffôn pranc. Diddanu pobl yw’r bwriad. Nid pethe ych-a-fi ydyn nhw.
(SAIB HIR)
C: Beth sy’n codi cywilydd arnoch chi a’ch diwidiant ?
Dal i aros am ateb i’r gwestiwn honno yr ydyn ni.
Mewn oes di-gywilydd mae ateb cwestiwn syml yn her i lawer gormod o bobl.
Nid wyf wedi clywed neb yn ceisio gofyn y cwestiynau uchod eto.
Paham tybed ?
dwli ar rad