Arglwydd (ac eraill) dyma fi yn ôl yn Awstralia wedi pum wythnos o wyliau !
Cyfnod go hir diolch i drefn hoe hir gwaith gwych … fy nghyfeithiad rhyfedd o “Long Service Leave” !!
Gadawais i Gymru tua fis yn ôl – wedi bod yng Nghaliffornia a Seland Newydd yn y cyfamser – OND mae ei holion hi arnaf yn gryfach na’r disgwyl.
Prif gasgliad yr ymweliad â Chaerdydd, Abertawe a’r cymoedd yw: mae gennyf ots o hyd, ac ots sylweddol, am y “cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn”.
Dyma ychydig o argraffiadau – rhai personol gan rywun sy wedi bod i ffwrdd am dipyn, ond sydd â thynged ddwy ddinas Gymreig yn ei galon o hyd.
CAERDYDD
Er ond ychydig o ddyddiau dreuliais i yng Nghaerdydd nid wyf yn meddwl fy mod wedi fy nwyllo gan bethau arwynebol.
Dyma’r hyn a welais a theimlais.
Rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi cael fy synnu pa mor Gymreigaidd y mae’r Prifddinas erbyn hyn.
Yn wir, mae hi’n Brifddinas go iawn erbyn hyn tybiwn i.
Pan yr oeddwn i’n gweithio i’r hen CBC/Darlledu Caerdydd yn yr 80au cynnar, ymdrech eithaf gwleidyddol oedd ceisio cysylltu pobl ardal yr Afon Tâf a’r Gymru ehangach.
A dyna’r union beth wnaeth rhai ohonom mewn ymdrech i chwifio baner y Ddraig Goch !
Ond ym 2012, mae’n ymddangos nid oes rhaid i neb hwpo baner fach gwyrdd, gwyn a choch yn nwylo’r rhan fwyaf o drigolion Caerdydd.
Ac ar ben y baneri di-ri, y mae’r Gymraeg i’w gweld a’i chlywed ar y strydoedd.
Mae’r holl newidiadau wedi dod heb danseilio diwylliant ac acen arbenning y ddinas.
Mae Kaardiff a Chaerdydd yn cyd-fyw yn ddigon hapus.
Ys dywed Pounstretcher.
ABERTAWE
Dyma’r dref lle dysgais i fod yn fyfyriwr, rhywfath o gyw-wleidydd a thipyn o ddarlledwr.
Rhwng astudio a gweithio’r wyf wedi treulio tua 8 neu 9 mlynedd o’m hanner cant a thipyn o gwmpas y Bae hyfryd.
Prif reswm f’ymweliad oedd cael gweld y Swans yn yr Uwch-Gynghrair … a phrynu crys neilon newydd i ddangos fy nheyrngarwch !
A bois bach mae pethe wedi newid ers i mi ymweld â’r Vetch yn gyson fel cefnogwr, ac yna fel gohebydd.
Yn lle mynd i le bach clyd y tu ôl i’r carachar i wylio’r gem, es i i Landŵr ac i’r Liberty.
Mae Abertawe yn fy ngholwg i, er gwaethaf ehediad gwych yr Elyrch i uchelfannau pêl-droed, y Marina modern sgleiniog a harddwch Ystumllwynarth, yn lle eithaf anhapus.
Mae canol y ddinas yn dweud y cyfan.
Wrth yrru ar hyd Ffordd-y-Brenin nid oedd yr un goron na phalas i’w gweld.
Siopau gwag ac adeiladau a fu’n atyniadau unwaith bellach yn sefyll fel petaent yn aros am y wrecking crew.
Roedd’na ddiffyg balchder o gwmpas y lle, boed yn y pensaernïaeth nac yn y bobl a welais a chlywais.
Ac i ddychweld at y busnes baneri, eithriad oedd gweld Draig Goch neu Jac (Swansea ai peidio) yr Undeb.
Yr oeddwn yn falch i ddychwelyd i’m hen genefin OND ni allaf ddweud y teimlais hapusrwydd pur yn ystod fy ymweliad …. ar wahân i foment o atgofion melys.
Dylid cofio, fe allai ddod yn ôl o bell troi yn felys … neu’n sur.







