Ni allaf ddianc rhag … gwpl o bethau.
Yn gyntaf, rhaid i mi ymddiheuro am fod mor absennol yn y fan hyn.
Pwysau gwaith, pwysau rhaglen radio, pwysau byw a bod.
Esgusodion ydynt eu gyd, ond dyna fel y mae ‘di bod.
Hon arall Cymru fach … a minnau’n ol yn y wlad wedi seibiant o 18 blynedd.
DEUNAW !!!
Mae’na newidiau mawr wedi bod tra mae rhai pethau sylfaenol wedi aros yr un fath.
Fe ddylech ddisgwyl llu o blogiau a fydd yn ymdrin a’r Gymru ddes i o hyd iddi dros y chwe niwrnod diwethaf yn ystod yr wythnosau nesaf.
Am y tro, ychydig o uchafbwyntiau.
Pwll Mawr Blaenafon, atyniad unigryw a gwych.
Roedd cael tywysydd Cymraeg ei iaith yn fonws hyfryd.
Cofeb Drychineb Six Bells.
Rhyfedd o gerflun a chreadigaeth sydd yn parchu’r rhai a laddwyd a’u diwidiant.
Stadiwm newydd Abertawe a gweddilion y Vetch.
Erys fy nghalon wrth ymyl y Bae !
Hufen Ia hyfryd Joe’s.
Nid yw’s blas wedi newid dim ers i mi fod yn fyfyriwr yn y 70au.
Gwyn fy myd … vanilla actiwli.
Ac yn ol yng Nghaerdydd, ffefryn arall.
Ffagots, pys and digon o grefi.
Ac o’m cwmpas trwy’r amser yr oedd ‘na awyrgylch tawel hyderus.
Y Gymru sydd ohoni’n gadarn er gwaethaf problemau’r bressenol a phrofiadau’r gorfennol.
Fe ddylech chi’r Cymry sy’n byw yn “Hon” yn falch o’ch llwyddiant a gwenud ymdrech i wneud hyd yn oed yn well.
Ac f’ymateb sydyn i ?








