
Rhwng gwaith a gŵyl ydwyf wrth i mi deipio.
Y busness darlledu/newyddiadurol ar y naill llaw a chriced ar y MCG ar y llaw arall.
Tipyn o seibiant sydd gennyf ar fore heulog i hel feddyliau am 2011 ac i osod canllawiau/gobeithion/ofnau am y flwyddyn nesaf.
Un o’r pethe sy’n amlygu’r broses o fod yn ganol-oed yw’r cynnydd yn y nifer o golledion o’ch cwmpas.
Pobl, diddordebau, cymdeithasu’n gyhoeddus, naifrwydd, gwallt.
Ar yr un pryd mae’na ambell i ennillion.
Pwysau gan amlaf.
Heb os nac onibai mae 2011 wedi bod yn flwyddyn o golli, a cholli’n boenus.
Cyfeillion, anwyliaid cyfeillion a chyd-weithwyr.
Ac ar ben hynny mae nifer rhy fawr o lawer o bobl yr wyf yn eu nabod wedi gwynebu her iechyd neu emosiynol.
Rhywffordd yr wyf wedi dianc rhagddynt – y colledion personol, fi fy hun hynny yw - ond damwain a hap mae ‘di bod.
Wrth edrych a cheisio deall tristwch a dicter y bobl o’m cwmpas yr wyf wedi sylweddoli un o’r gwirioneddau amlwg hynny sydd ddim mor amlwg mewn byd o lygadu’r cyfle/technoleg/cariad nesaf un.
A’r gwirionedd yw: bregus iawn yw ein gafael ar bethau. Felly gwenud rhywbeth ohoni’n gloi boi bach.
A daw’r “gwneud” trwy wneud go iawn … a gwerthfawrogi.
Nid dweud neu feddwl neu bendroni.
Symyl ond …
Ie, blwyddyn galed mae 2011 wedi bod hyd y gwelaf.
A 2012 ?
Y gwneud fydd … gwella.
Gwella ffordd o fyw a bod, gwella’r drefn ar bethe, mynd allan ym mhob ystyr a cheisio colli ambell i ofn.
A thrwy hyn oll rhaid cadw gwen wrth gefn.
Dyna ddigon am y tro … fwrdd a mi i’r MCG a’r cyfle o weld y Meistr Bach Sachin Tendulkar yn fyw !

