teledu (mammal), species of badger found in Southeast Asia. (www.britannica.com)
teledu (noun), always being kick around.
Mae Sioned Williams wedi dewis ei deg rhaglen Gymraeg orau erioed ar wefan y BBC fel rhan o ymygyrch hyrwyddo rhaglenni Nadolig S4C.
(http://www.bbc.co.uk/cymru/teledu/safle/cyffredinol/pages/deg_uchaf.shtml)
Sioned yw adolygydd celfyddydau ar Raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, a cholofnydd teledu Barn.
Y geiriau a ddefnyddir yw “Mae’r Nadolig yn amser o’r flwyddyn i fwynhau rhaglenni arbennig ar y teledu. Dros y blynyddoedd mae S4C wedi dangos amryw o glasuron yn ystod yr Ŵyl. Sioned Williams, adolygydd celfyddydau ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru, a cholofnydd teledu Barn sydd yn dewis ei deg rhaglen Gymraeg orau erioed.”
Y deg rhaglen Nadoligaidd orau erioed mae’r erthygl yn meddwl – wel, rwy’n credu dyna beth mae’n ceisio dweud..
A dyma nhw:
1. Martha, Jac a Sianco (2008)
2. Nadolig Plentyn yng Nghymru (2008)
3. Ryan a Ronnie (2009)
4. Gadael Lenin (1993)
5. Ar y Tracs (2009)
6. Solomon a Gaenor (2000)
7. Gelert (2007)
8. 40 Ucha Siart y Dywediadau (2009)
9. Tân ar y Comin (1994)
10. Pobl y Chyff Nadolig (1992)
Ond beth AM y deg rhaglen Gymraeg orau erioed ?
Beth yw eich barn chi ?
Nid ydwyf wedi rhyw lawer o deledu Gymraeg ers 1988, ond dyma f’awgrymiadau.
Plant y Paith, Miri Mawr, Glas y Gorlan, Fo a Fe, rhaglenni etholiadol a refferendwm y BBC, Y Byd Ar Bedwar, Ryan a Ronnie, Pobol y Cwm, Cefn Gwlad a Dechreu Canu, Dechreu Canmol.
Beth yw eich barn chi ? Y rhaglenni Cymraeg gorau erioed …
Disc a Dawn ?, Torri Gwynt ?, C’mon Midffild ? Dinas ?!!!!!!
Croeso i chi gyd wneud sylwadau


G’dydd da! Dyma ‘nghynigion i o ran 2011 beth bynnag…
http://www.shitclic.blogspot.com/2012/01/tyrcwns-chracyrs-2011.html