E-bost at y BBC a anfonwyd ar y 12fed o Hydfref 2011 a’r “ateb” iddo a dderbyniais ar y 21ain o Hydref.
Nid yw’r gohebiaeth hwn ar ben … o bell ffordd.
“Yr wyf wedi gweld cyhoeddiad am yr “App” newydd ar gyfer iPlayer sy’n galluogi pobl fel fi sy’n byw y tu allan i’r DU i wylio cynnyrch y BBC. Yn ol y wefan:”This service is English language only. Programme availability is
subject to change and may not be the same in all countries.” Felly, pam nad oes cynnyrch Cymraeg, Gaelg a Gwyddelig ar gael??”
——–
Annwyl Mr Bell,
Diolch i chi am gysylltu. Rwy’n deall eich bod yn anhapus na fydd rhai rhaglenni Cymraeg, Gaeleg a Gwyddeleg ar gael ar app BBC iPlayer fydd ar gael yn rhyngwladol. Mae app BBC iPlayer yn fenter fasnachol sydd felly yn cael ei weinyddu gan BBC Worldwide. Bydd angen i chi gysylltu â hwy gyda’ch cwyn. Gallwch gysylltu â hwy drwy’r linc isod: http://www.bbcworldwide.com/contact-us.aspx
Hoffwn eich sicrhau chi ein bod wedi cofrestru eich sylw ar ein hadroddiad am adborth y gynulleidfa. Dyma adroddiad sydd ar gael i lawer o staff y BBC, gan gynnwys aelodau o Fwrdd Gweithredol y BBC, rheolwyr
sianelau ac uwch reolwyr eraill.
Mae adroddiadau adborth y gynulleidfa yn cael eu hystyried yn ddogfennau pwysig sy’n gallu bod o gymorth wrth wneud penderfyniadau am raglenni a chynnwys golygyddol i’r dyfodol.
Diolch am fynd i’r drafferth i gysylltu gyda ni.
Yn gywir,
Peredur A Jones
Gwasanaethau’r Gynulleidfa, BBC Cymru

Pob lwc
Hoffwn eich sicrhau chi ein bod wedi cofrestru eich sylw ar ein hadroddiad am adborth y gynulleidfa. Dyma adroddiad sydd ar gael i lawer o staff y BBC, gan gynnwys aelodau o Fwrdd Gweithredol y BBC, rheolwyr
sianelau ac uwch reolwyr eraill.
Os felly, beth am anog blogwyr Cymraeg eraill o du allan i Gymru i ymuno gyda dy ymgyrch?
Os mai’r gwerth masnachol sy’n eu poeni, mae lot o bobl ar fforwm trafod SaySomethingInWelsh gyda cwynion tebyg (Americanwyr gan fwyaf $$$$$$$$). Gwerth cydymgyrchu?
Dylai’r linc uchod fynd fod at: http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_o_du_all_i_Gymru