
Diwedd cyfnod.
A hithau’n 1.30pm yma ym Melbourne, rwyf newydd weld Ricky Ponting yn cyhoeddi ei fod e’n rhoi’r gorau iddo fel capten tim criced (gemau prawf a gemau un dydd) Awstralia.
Nid oedd yn syndod i neb gan ei fod e wedi colli ei ffordd fel batiwr ac fel arweinydd yn ystod y misoedd diwethaf.
Daeth ei gapteniaieth i ben ar ol iddo beidio ag ennill yr “Ashes” ac ar ol ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd.
Ond go brin bod llawer o gapteniaid yn ffarwelio a’u timau pan mae pethe ar eu gorau.
Nid oes dwywaith y mae Ponting o hyd yn fatiwr o safon, ond mae ei ymddygiad fel capten wedi tanseilio ei gryfder ei ystadegau batio yn fwy-fwy.
Ar adegau roedd e’n ymddwyn fel rhywfath o Napoleon crac.
Nid un am guddio ei deimladau yw’r gwr o Mowbray, Tasmania.
A nid un i sylweddoli ei gyfrifoldeb ehangach mohono ychwaith. Pan aeth pethe o chwith yr oedd e bob amser yn ymddwyn fel petai’n methu deall yn llwyr pwysigrwydd ei le fel capten. Ar adegau fel hyn tueddiad Punter oedd i fod yn blentynaidd o sur ac anhapus. Capten llwyddiannus yn hytrach nag arweinydd trawiadol oedd Ricky Ponting.
Dyn cyffredin yw Ricky yn yr ystyr gorau o’r term. Dyna paham, o bosib, ei fod e wedi methu ar sawl adeg i sefyll uwchben unrhyw ddigwyddiau oedd yn bygwth criced ar raddfa eang. Doedd e ddim yn gweld ei swydd fel unrhywbeth mwy nag arwain tim. Ac roedd hynny yn creu problemau o bryd i’w gilydd.
Does dim dwywaith, mae Ricky Thomas Ponting wedi gwasanaethu’r tim cenedlaethol yn wych fel cricedwr ac, wrth ddarllen y canlyniadau, fel capten.
Ond nid wyf yn gwbl sicr am werth ei wasanaeth i’r gamp o griced.
