Baubles
Y trydydd blog ac mae “Google Translate” wedi fy methu’n llwyr.
Dim cyfeithiad am “bauble” felly baubles amdani!
Y rheswm am y teitl ? Traethawd bach am natur y wlad hon – Awstralia a’i cringe diwylliannol (cultural cringe) – oes gan rywun syniad am derm am “cringe”?
Ta waeth.
Mae Tiger Woods ym Melbourne yn chwarae yn y Meistri (Australian Masters) yn Kingston Heath ac mae’r ddinas hon wedi mynd yn dwlali tap yn ei gylch.
Y papurau’n llawn o straeon gyda phenawdau fel “Tiger Hunt” a “Tiger Mania” a’r sianeli teledu yn rhoi sylw i bob symudiad y golffiwr gwych – ag eithrio ei ymweliadau i’r ty bach. Dim joc. Ac mae’r golff ei hun ond wedi cychwyn y bore’ma (dydd Iau 12 Tach).
Mae’r wlad hon wedi newid yn sylweddol ers i mi gyrraedd am y tro cyntaf ym 1985. Mae’r realiti o fod ym mhell i ffwrdd o’r byd wedi diflannu diolch i’r lloeren a’r we. Ond mae’r teimlad yn dal yn gryf er gwaethaf pawb (Oprah, Lady Ga-Ga, Letterman) a phopeth (ffasiynau Park Avenue, blackberries, crysau pel droed diweddara Man U).
Mae’r ymweliad Tiger Woods yn profi’r peth yn fy marn i fel Awstraliwr newydd (naturalised….”certified Australian” o bosib !)
Mae’r cyfryngau yn ei addoli fel creadur o’r byd mawr tu hwnt ac mae’r “capel” y cwrs golff dan ei sang. Am unwaith rydyn ni’n “rhan o’r byd” – y byd real, sef yr Uniol Daleithiau + Ewrop. Dyma gyfle i teimlo yn rhan o deulu mawr y gorllewin. Globalism yn lladd yr ysbryd lleol.
A ninnau nid nepell o wlad foslem fwya’r byd – Indonesia. A ninnau nid nepell o rheng flaen y frwydr yn erbyn “y tywydd newydd” – ynysoedd y Mor Tawel.
Mmmmmmm.
Baubles ? Pethau sgleiniog ond diwerth, sy’n cael eu defnyddio gan bobl o bell i’w galluogi nhw i gymryd mantais o’r boblogaeth leol.
Fore!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!
Loading...
[...] and found it’s in a funny lingo. Well, to give you a weird and wacky taste of one of my Welsh language posts here is that post translated by “Google Translate”. It’s sorta understandable, [...]
Oi Matilda, what are you going on about….? « The Full Catastrophe - Tachwedd 14, 2009 at 4:33 yb