
Mae gwyrdd a melyn ym mhob man.
Baneri ar nifer sylweddol o geir.
Ac mae ambell i chop a stecen yn cael ei losgi’n ulw.
Ond ar yr Oz Day hwn mae’r criced, y BBQs a phob dim arall wedi’u llugo i’r neilltu agn brotest yng Nganberra.
Mae’r Brif Weinidog AKA y ferch ben-goch o’r Barri wedi cael amser dramatig gyda phrotestwyr aboriganiaidd yn creu stwr y tu allan i dy bwyta.
Roedd Julia Gillard (ac arweinydd yr wrthblaid Tony Abbott) yn gaeth yn yr adeilad am gyfnod oherwydd gwrthdystiad gan gefnogwyr yr “Aboriginal Tent Embassy” a godwyd o flaen hen Senedd-dy’r wlad 40 mlynedd yn ol.
Mwy am y stori:
Yn wir, mae digwyddiau’r 26ain o Ioanwr eleni yn dystiolaeth o’r ffaith ei fod bod ddiwrnod o ddathlu a chymlethdodau, dicter a digrifwch.
Dyma’r dydd ym 1788 pan gyrhaeddodd Capten Cook Bae Botany gan hawlio tir yr ynys enfawr hwn am y goron er bod miloedd o bobl wedi bod yn byw ar y tir mawr ers miloedd o flynyddoedd.
Fel sawl “traddodiad” Awstraliaidd mae’n weddol newydd.
Fe’i adnabyddwyd fel “Anniversary Day” neu “Foundation Day” am gyfnod hir a dim ond yn y tridegau cafodd y teitl “Australia Day” ei ddefnyddio ar draws Awstralia benbaladr. (http://www.australiaday.org.au/australia-day/history.aspx)
Ac wrth i’r genedl chwifio eu baneri mae sawl un trigiannydd yn gwynebu diwrnod caled yn wyneb natur.
Yng Ngorllewin Awstralia mae’na dannau i’r gogledd o Perth wrth i’r tymheredd gyrraedd DEUGAIN gradd a mwy !
Tra yn ne Queensland a gogledd De Cymru Newydd mae’na lifogydd difrifol.
Eithafon tywydd sy’n creu rhan o gymeriad Oz a’i phobl.
A nid oes rhyfeddd bod elfennau eraill yn y cymeriad hwnnw yn “eithafol” hefyd.

Yng ngeiriau’r bardd Dorothea Mackeller yn ei cherdd “My Country”:
I love a sunburnt country,
A land of sweeping plains,
Of ragged mountain ranges,
Of droughts and flooding rains.
I love her far horizons,
I love her jewel-sea,
Her beauty and her terror
The wide brown land for me!
![gillard729-420x0[1]](http://anndraobell.files.wordpress.com/2012/01/gillard729-420x011.jpg?w=300&h=200)
![pm2-420x0[1]](http://anndraobell.files.wordpress.com/2012/01/pm2-420x01.jpg?w=300&h=200)

















